Prentisiaethau – Yr Allwedd i Adferiad Busnesau ar ôl Covid?

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

I lawer o fusnesau, bu’r pandemig yn gyfnod ansicr. Mae’r cyfnodau clo a’r cyfyngiadau wedi effeithio ar bob agwedd ar waith sefydliadau, o gadwyni cyflenwi i drefniadau gweithio a chyflenwi nwyddau a gwasanaethau. Cafodd effaith aruthrol hefyd ar y farchnad swyddi, gyda diweithdra’n cynyddu ymhlith pobl ifanc ar ddechrau’r cyfnodau clo, yn enwedig yn y sectorau a gafodd eu taro waethaf.

Mae’n bwysicach nag erioed cefnogi cyflogwyr a dysgwyr trwy waith hyfforddi a datblygu. Rydym ni yn Educ8 yn cydnabod bod hyfforddiant o ansawdd da yn hanfodol i baratoi ein cymunedau at y dyfodol.
Wrth i’r sefyllfa economaidd a chymdeithasol barhau i esblygu’n gyflym, bydd sgiliau a phrentisiaethau yn chwarae rhan arwyddocaol yn adferiad busnesau ar ôl y pandemig, gan eu helpu i addasu a thyfu wrth symud ymlaen.

Grant Santos, Chief Executive Officer, Educ8 Training

Grant Santos, Prif Swyddog Gweithredol, Educ8 Training

Mae’n anodd recriwtio
Mewn baromedr busnes gan y Brifysgol Agored, cytunodd 63% o’r penderfynwyr bod eu sefydliad wedi’i chael yn anodd recriwtio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac nad oedd gan ymgeiswyr y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swydd.

Mae tua 64% o’r farn bod diffyg sgiliau ymgeiswyr wedi ymestyn y broses recriwtio ac mae sawl busnes wedi recriwtio ar lefel is na’r disgwyl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan wario arian ar ddysgu sgiliau i weithwyr newydd, ar gost o £16,800 ar gyfartaledd.

Er hynny, mae cyflogwyr blaengar wedi amlinellu eu strategaethau hyfforddi er mwyn sicrhau llwyddiant eu busnes yn y dyfodol.

Dywed mwy na hanner y bydd prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith yn chwarae rhan hanfodol yn nyfodol eu sefydliadau, ac mae 96% o’r busnesau sy’n cyflogi prentisiaid ar hyn o bryd yn disgwyl cynnal neu gynyddu nifer eu prentisiaethau yn y 12 mis nesaf.

Ledled y Deyrnas Unedig, mae llywodraethau wedi ymrwymo i wario ar addysg a hyfforddiant. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn pontio’r bwlch sgiliau a helpu busnesau i ddod dros y pandemig.

Yng Nghymru, buddsoddodd y Llywodraeth £152m mewn prentisiaethau yn 2021, yn cynnwys £18.7m mewn cymelliadau i gyflogwyr i recriwtio a chefnogi pobl ifanc. Wedi hynny, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Gwarant i Bobl Ifanc, er mwyn cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed.

Cafodd cymelliadau a lansiwyd yn ystod y pandemig i helpu busnesau Cymru i recriwtio prentisiaid eu hymestyn i 2022, gyda busnesau’n gallu hawlio hyd at £4,000 am bob prentis newydd, ar saili oedran ac oriau eu contract.

Mae’r cymelliadau hyn, sy’n rhan o adduned Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau i ddod dros effeithiau’r coronafeirws, yn golygu bod dros 5,500 o brentisiaid newydd eisoes wedi’u recriwtio ers mis Awst 2020 – roeddent i fod i gau ym mis Medi 2021, ond byddant yn parhau yn awr tan ddiwedd Mawrth 2022.

Yr allwedd i adeiladu dyfodol busnesau
Seilir y gefnogaeth ariannol hon i brentisiaethau ar fanteision pendant fel y dengys data gan drefnwyr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau:

  • Dywedodd 86% o gyflogwyr fod prentisiaethau yn eu helpu i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i’w sefydliad
  • Dywedodd 78% fod prentisiaethau yn eu helpu i fod yn fwy cynhyrchiol
  • Dywedodd 74% eu bod yn helpu i wella ansawdd eu cynnyrch neu eu gwasanaeth

Mae’r cyfraddau uchel hyn yn dangos bod prentisiaethau o fudd i’r ddwy ochr.
Mae prentis yn ychwanegu gwerth at fusnes, fel y wybodaeth ddiweddaraf trwy ddysgu parhaus ac ymdrin â thasgau lefel isel fel y gall staff uwch ganolbwyntio ar faterion lle mae angen eu sylw. Gallai hyn olygu ailadeiladu neu hyd yn oed uwchraddio’r busnes, paratoi ar gyfer y ‘normal nesaf’ a beth fydd hynny’n ei olygu.

Yn ogystal, gall prentisiaeth fod yn addas ar gyfer aelod presennol o’r staff, fel rhai sydd mewn swyddi rheoli, er mwyn datblygu eu sgiliau a’u dulliau arwain ac, yn eu tro, wella’r ffordd y mae’r busnes yn gweithredu.

Gan fod modd addasu prentisiaethau i ddiwallu anghenion y cyflogwyr, nhw sy’n penderfynu pa sgiliau ddylai eu gweithiwr delfrydol eu cael, cyn cydweithio ag Educ8 Training i greu cwricwlwm i’w datblygu.

Trwy ymateb yn uniongyrchol i fylchau sgiliau penodol, mae prentisiaeth yn gyfle i lenwi swydd wag mewn ffordd sy’n hybu twf a datblygiad parhaus ac yn codi safon busnes, gan roi mantais iddo yn eu sector.

Sefydlwyd Educ8 Training ar set o werthoedd penodol, mewn ymateb i brinder sgiliau yn ne Cymru. Caiff ei sbarduno gan werthoedd fel gonestrwydd, uniondeb, parch a phositifrwydd ac rydym yn credu’n angerddol mewn sicrhau bod pobl yn cyrraedd eu llawn botensial i hybu swyddi a mentergarwch yng Nghymru.

Mewn byd cystadleuol ar ôl Covid, mae meithrin potensial yn rhan hanfodol o’r ffordd y mae busnesau’n symud ymlaen o wneud dim ond goroesi i ffynnu unwaith eto.

Grant Santos
Prif Swyddog Gweithredol, Educ8 Training

Educ8 Training

More News Articles

  —