Sut gall CGA eich cefnogi chi?

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cwblhau ei broses adnewyddu ar gyfer 2024-25 yn ddiweddar. Mae’n rhaid i ymarferwyr addysg gofrestru gyda CGA er mwyn gweithio yng Nghymru, ac mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eu staff wedi cofrestru cyn iddynt ddechrau gweithio. Gwneud cais i gofrestru.

I gefnogi cofrestreion a chyflogwyr i ddeall y gofynion cyfreithiol sydd arnynt, mae CGA yn cynnig sesiynau hyfforddiant am ddim yn bersonol ac ar-lein ar nifer o bynciau, gan gynnwys y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Maent hefyd yn cynnig sesiynau ar y canllawiau, adnoddau, a’r gwasanaethau cefnogaeth sydd ar gael gan CGA i helpu cofrestreion osgoi sefyllfa lle caiff eu cofrestriad ei gwestiynu.

Lle bo pryderon bod cofrestrai ddim yn bodloni’r safonau a ddisgwylir ganddynt, mae CGA yn ymchwilio trwy’r broses priodoldeb i ymarfer (PiY). Mae CGA wastad yn chwilio am unigolion i ymuno a’u paneli PiY ac mae’n bwysig bod pob grŵp cofrestru’n cael ei gynrychioli. Os oes diddordeb gyda chi yn y cyfle datblygiad proffesiynol gwych yma, anfonwch e-bost at y tîm PiY: fitnesstopractise@ewc.wales.

Cyngor y Gweithlu Addysg

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —