Mae CGA yn rhannu gwybodaeth am eu Cod i gofrestreion wedi ei ddiweddaru, yn ogystal â chanllawiau i’w helpu, a gwybodaeth am ddigwyddiad ym mis Hydref.
Cyhoeddi Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi ei ddiwygio
Os ydych wedi cofrestru gyda CGA, mae’n hollbwysig eich bod yn cymryd amser i ymgyfarwyddo â’r Cod wedi ei ddiweddaru, ddaeth i rym ar 1 Medi 2025. Mae’n ddogfen allweddol gan ei fod yn gosod y safonau, ymddygiadau, a’r gwerthoedd y disgwylir gennych fel ymarferwr addysg.
I’ch helpu i ddeall a defnyddio’r Cod yn eich ymarfer, mae CGA wedi creu nifer o adnoddau cefnogol ar eu gwefan.
Canllawiau newydd ac wedi eu diweddaru i gefnogi iechyd meddwl a lles
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi canllaw arfer da newydd gyda’r bwriad o helpu cefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr a phobl ifanc. Mae’r canllaw yn rhoi cyngor ymarferol ar sut i gefnogi dysgwyr a phobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl a’u lles. Maent hefyd wedi diweddaru eu canllaw arfer da ar iechyd meddwl a lles cofrestreion.
Digwyddiad briffio ystadegau blynyddol y gweithlu addysg
Ymunwch â’n cyflwynwyr wrth iddyn nhw rannu trosolwg o ddata 2025, gan amlygu prif dueddiadau o’r 13 categori cofrestru, a dros 91,000 o gofrestreion. Am y tro cyntaf eleni, bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar ymarferwyr dysgu oedolion, a phenaethiaid neu uwch arweinwyr yn gweithio mewn addysg bellach.
Yn dilyn y prif gyflwyniad, bydd mynychwyr yn cael cyfle i holi cwestiynau ar y wybodaeth a gyflwynwyd. Cadwch eich lle am ddim nawr.