Fiona’n barod i hyrwyddo ansawdd dysgu seiliedig ar waith

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

fiona-argent-2018

Mae menyw sy’n credu’n gryf mewn dysgu seiliedig ar waith wedi’i phenodi i swydd allweddol gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Penodwyd Fiona Argent, 51 oed, o Hengoed, Caerffili, yn bennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith ar ôl treulio dros chwe blynedd yn rheolwr y Ganolfan Dysgu Seiliedig ar Waith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau o’r NTfW ac mae ganddo gysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru. Mae’r darparwyr yn cyflenwi rhaglenni’n amrywio o Hyfforddeiaethau i Brentisiaethau Uwch ar ran Llywodraeth Cymru.

“Dyma swydd wych mewn maes rwy’n credu’n angerddol ynddo,” meddai Fiona. “Roedd yn her nad oeddwn i am golli’r cyfle i’w thaclo. Y peth mwyaf a’m denodd i at y swydd oedd y pwyslais ar ymarferwyr proffesiynol ym maes dysgu seiliedig a’r waith a’r cyfle i lunio set o safonau a fydd yn helpu’r gweithlu i ddatblygu yn y dyfodol.

“Yn fy marn i, swydd ymarferydd dysgu seiliedig ar waith yw’r swydd fwyaf amlochrog ym myd dysgu ac addysg. Mae disgwyl i chi asesu, addysgu, hyfforddi, paratoi gwersi a hwyluso dulliau dysgu effeithiol. Mae’n swydd broffesiynol ac mae’n bryd iddi gael ei chydnabod.

“Rydym ar drothwy cyfnod cyffrous iawn, yn enwedig o ran datblygiad proffesiynol ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a dechrau eu meincnodi. Erbyn hyn, dechreuodd Cyngor y Gweithlu Addysg gydnabod y swydd ochr yn ochr â swyddi mewn addysg bellach ac addysg prif lif.”

Dywedodd fod pandemig COVID-19 wedi cyflymu’r broses o ddefnyddio platfformau dysgu digidol gan ddarparwyr hyfforddiant i gefnogi dysgwyr. Y cam nesaf fydd sicrhau bod y platfformau hyn yn cael eu defnyddio hyd yn oed yn fwy effeithiol, meddai.

“Rwy’n ymuno â rhwydwaith prysur a bywiog iawn lle mae pobl yn credu’n gryf mewn dysgwyr a dysgu a mwy o gysylltiad nag a fu â’r rhanddeiliaid,” meddai Fiona. “Caiff dysgu seiliedig ar waith ei drefnu a’i reoli mewn ffordd fuddiol iawn yng Nghymru.

“Rhoddir lle canolog i ansawdd y ddarpariaeth ac mae’n bwysig bod pawb yn sylweddoli hynny, nid dim ond y dysgwyr ond y cyflogwyr a Llywodraeth Cymru hefyd. Er mwyn sicrhau ansawdd y ddarpariaeth, mae angen i’r addysgu a’r dysgu fod yn effeithiol. Mae gan y cyflogwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn talu’r ardoll brentisiaethau, ran bwysig i’w chwarae yn hyn ac mae ganddynt lwyfan i fynegi eu barn mewn Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.

“A ninnau’n ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith, mae’n hanfodol ein bod yn cynnig gwerth am arian a’n bod yn cynnig addysg drawsnewidiol (transformational) yn hytrach nag addysg ryngweithredol (transactional).”

Mae Fiona’n briod â Simon, sy’n gyfarwyddwr adnoddau dynol ac mae ganddynt ddau o blant, Harriet, 22 oed a Jacob, 19. Bu’n astudio rheoli lletygarwch yng Ngholeg Polytechnig Brighton cyn gwneud diploma ôl-radd ym maes personél ac adnoddau dynol ac mae’n Gymrawd yn Sefydliad Siartredig Pobl a Datblygiad (FCIPD). Ers hynny, mae wedi gwneud MBA Weithredol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dechreuodd ei gyrfa mewn hyfforddi a datblygu gyda Gŵyl Gerddi Glyn Ebwy yn 1991 cyn iddi ymuno â Link Training lle bu’n rheolwr rhanbarthol hyfforddiant ac ansawdd am chwe blynedd. Yna, bu’n ymgynghorydd hunangyflogedig hyfforddi a datblygu am naw mlynedd, yn cynnwys pum mlynedd yn gynghorydd datblygu adnoddau dynol a Buddsoddwyr mewn Pobl ar ran Llywodraeth Cymru.

Treuliodd saith mlynedd wedyn yn bennaeth cyflenwi darpariaeth Acorn (ALS erbyn hyn) cyn ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dywedodd Jeff Protheroe, cyfarwyddwr gweithrediadau NTfW: “Mae Fiona wedi’i phenodi i’r swydd hon, sy’n eithriadol o bwysig i’r rhwydwaith darparwyr prentisiaethau, mewn cyfnod o newid sylweddol i economi Cymru.

“Mae prentisiaethau wedi bod, ac mae’n siŵr y byddant i’r dyfodol, yn gonglfaen i ddatblygu’r gweithlu yng Nghymru. Felly, mae’n hollbwysig bod pob prentisiaeth yn cyrraedd yr ansawdd gorau posibl, o safbwynt cyflogwyr ac unigolion.

“Mae gan Gymru raglen brentisiaethau ragorol ac mae llawer o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i sicrhau ei bod gyda’r gorau yn y byd. Bydd gan Fiona ran ganolog yn y datblygiadau hyn, gan ganolbwyntio ar ddatblygu ein gweithlu proffesiynol ymhellach, fel bod ansawdd ein prentisiaethau’n mynd o nerth i nerth.”

More News Articles

  —