Eleni, mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (PSRh) Canolbarth Cymru wedi bod yn cynnal arolwg i ganfod beth sydd gennych i’w ddweud am yr heriau rydych yn eu hwynebu fel busnes yn y Canolbarth ac, yn benodol, ynghylch recriwtio sgiliau yn awr ac yn y dyfodol.
Mae tîm y Bartneriaeth yn diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yma – mae’r arolwg yn dal yn agored felly cofiwch rannu eich barn, os na wnaethoch eisoes. Bydd yr arolwg yn cau ddiwedd y flwyddyn.
Mae’r Bartneriaeth yn gwrando’n ofalus ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud.
Ar ôl i’r arolwg gau, byddant yn dadansoddi’r data ac yn eu defnyddio i roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ac i ddylanwadu ar newid yn y mannau cywir.
Un o’r cwestiynau a ofynnir yw ‘Beth yw’r her fwyaf sy’n wynebu eich busnes?’ Hyd yma, nododd 64% mai recriwtio yw’r her fwyaf.
Felly, bydd y Bartneriaeth yn ystyried y ffordd orau o gefnogi darparwyr hyfforddiant ac asiantaethau dychwelyd i’r gwaith er mwyn gwella’r cyflenwad llafur i fusnesau yn y Canolbarth.
Caiff canlyniadau llawn yr arolwg eu rhannu ar ôl dadansoddi’r data ym mis Ionawr.