Dathlu llwyddiannau newid bywyd yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion
English | Cymraeg

Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion gyda Cefin Campbell, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol a Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith.
Cafodd llwyddiannau a newidiodd fywydau unigolion a oroesodd heriau a phrosiect cymunedol sy’n rhoi sgiliau newydd ac ailadeiladu hyder dysgwyr eu dathlu yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 neithiwr (nos Fercher).
Dathlwyd llwyddiant deg enillydd gwobr ac un dysgwr gyda chymeradwyaeth uchel am eu hymroddiad i ddal ati i ddysgu a’u teithiau sy’n ysbrydoli mewn seremoni wobrwyo lawen yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd.
Yn uchafbwynt yr Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru – adultlearnersweek.wales – sy’n rhedeg rhwng 21-27 Medi, caiff y gwobrau eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Dangosodd pob enillydd gwobr Ysbrydoli! sut y gall dysgu gynnig ail gyfle, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, adeiladu hyder a helpu cymunedau i ddod yn egnïol a llwyddiannus.
Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy’n awyddus i ddechrau eu taith ddysgu, cynhelir cyrsiau a sesiynau blasu wyneb yn wyneb ac ar-lein drwy gydol mis Medi, yn cynnwys yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion. Mae cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i fynd ati i ddysgu fel ffordd o’u gwneud yn fwy cyflogadwy, meithrin sgiliau bywyd a gwella eu hansawdd bywyd.
Roedd enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn cynnwys Yassmein Hussein a enillodd y wobr Rhannu Dyfodol. Mae’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i’w chymuned yng Nghaerdydd wrth geisio gwella a rhannu ei sgiliau, hyder a gwybodaeth drwy addysg oedolion.
Ar ôl cymhwyso fel fferyllydd yn yr Aifft, penderfynodd newid cyfeiriad ei gyrfa ac mae wedi cwblhau 13 cwrs addysg oedolion gyda Choleg Caerdydd a’r Fro a Chyngor Caerdydd. Sefydlodd grŵp Facebook i gefnogi mamau plant niwrowahanol a mae’n hyrwyddo addysg oedolion i famau eraill.
Enillydd y Wobr Siaradwr Newydd oedd Hannah Rowlatt o Gaerdydd, sydd wedi cofrestru’n ddall gyda chyflwr dirywiol ar ei golwg ac sy’n gweithio fel Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd i RNIB Cymru.
Dywedodd Hannah fod dysgu Cymraeg wedi trawsnewid ei bywyd ac mae’n helpu dysgwyr eraill dall a gyda golwg rhannol ledled Cymru drwy weithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i wneud deunyddiau cwrs yn fwy hygyrch.
Honey Jenkins o Abertyleri enillodd y Wobr Llais Dysgwyr. Ar ôl cyflawni ei breuddwyd o ddod yn adeiladwr gyda chefnogaeth gan Goleg Penybont, mae Honey yn awr yn gosod y sylfeini ar gyfer cenhedlaeth newydd o fenywod ifanc i weithio mewn diwydiant adeiladu mwy cynhwysol ac amrywiol.
Mae Aaron Jones, enillydd y Wobr Sgiliau Gwaith, yn ysbrydoli fel model rôl ar gyfer niwroamrywiaeth a grym trawsnewidiol dysgu gydol oes. Yn uwch weinydd rhan-amser yn y Penycae Inn, ger Abertawe, fe wnaeth sicrhau Prentisiaeth Goruchwylio ac Arweinyddiaeth Lletygarwch gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian a daeth yn siaradwr cyhoeddus am ei daith ddysgu a niwroamrywiaeth.
Cafodd Fred Murad, enillydd y Wobr Newid Bywyd, ei ysbrydoli gan ei ddau blentyn a’i ddiweddar wraig, Claire, a fu farw o sepsis yn 2021, i ddychwelyd i ddysgu i sicrhau fod y sgiliau ganddo i’w cefnogi gyda’u haddysg.
Ar ôl cwblhau 25 cwrs dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae Fred bellach yn diwtor weldio yng Ngholeg Sir Benfro ac yn dechrau ar flwyddyn olaf Gradd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ei uchelgais yw dod yn ddarlithydd.
Gadawodd Javier Griffiths-Payne o’r Barri, enillydd Gwobr Oedolyn Ifanc, yr ysgol yn 14 oed heb unrhyw gymwysterau. Dim ond dwy flynedd ar ôl dychwelyd i ddysgu gyda Choleg Caerdydd a’r Fro, mae Javier wedi sicrhau lle i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bryste, gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr i newid trywydd eich bywyd.
Enillodd Agri-cation, cwmni budd cymunedol sy’n seiliedig ar fferm waith yn Mangor Is-y-coed ger Wrecsam, Wobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol. Wedi’i sefydlu gan Cheryl ac Andrew Rees, mae’r cwmni yn cyflwyno rhaglenni dysgu sy’n helpu pobl i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a bywyd, gwella llesiant, meithrin hyder a ailgysylltu gyda’u cymunedau.
Daniel Mason o Ferthyr Tydful enillodd y Wobr Dysgu ar gyfer Iechyd Gwell, a dywedodd fod addysg oedolion wedi ei achub rhag iselder ar ôl iddo golli ei fam. Cafodd ei gyfeirio at Hwb Cymunedol Cwmpawd ym Merthyr Tudful lle mae cwrs Dysgu drwy’r Awyr Agored wedi rhoi angerdd iddo ar gyfer ffotograffiaeth a’r amgylchedd lleol.
Mae Julia Anderson, o Dredegar, enillydd y Wobr Heneiddio’n Dda, hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth Hyb Cymunedol Cwmpawd a’i helpodd i ailadeiladu ei hyder ar ôl i gyflwr awtoimiwnedd cronig prin ddod â’i gyrfa lewyrchus mewn gofal cymdeithasol i ben yn sydyn. Dywedodd fod cyrsiau crochenwaith a chyrsiau eraill mewn celf a chrefft wedi bod yn rhaff fywyd iddi.
Mae Shelby-Weaver-Slaughter, enillydd y Wobr Sgiliau Hanfodol Bywyd, yn llunio gyrfa sy’n ysbrydoli mewn gofal cymdeithasol, ar ôl dychwelyd i ddysgu gyda phrentisiaeth a gyflwynwyd gan Goleg Penybont. Mae bellach wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch fel Ymarferydd Gwasanethau Cymdeithasol ac yn gobeithio astudio am radd prifysgol.
Aeth gwobr cymeradwyaeth uchel i Georgia Miggins, o Abertawe, sy’n ysbrydoli pobl ifanc eraill sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i gredu yn eu potensial a gwireddu eu huchelgais.
Cafodd Georgia dystysgrif Gradd 5 mewn canu yn ei hymgais i ddod yn athrawes therapi cerdd. Bu’n gynrychiolydd Anabledd Dysgu Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru pan oedd yn 17 oed, mae’n aelod o Gyngor Lleisiau Mencap a hi yw ymddiriedolydd ieuengaf Anabledd Dysgu Cymru.
Dywedodd Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol:
“Mae enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn dangos sut y gall dysgu drawsnewid bywydau.
“Drwy eu penderfyniad a’u hymroddiad, maent wedi datblygu sgiliau newydd, meithrin hyder a chreu cyfleoedd newydd iddynt eu hunain a’u cymunedau. Mae eu straeon yn ysbrydoli ac yn dangos pam fod dysgu gydol oes mor bwysig ar gyfer unigolion, cymunedau a Chymru gyfan.”
Ychwanegodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith:
“Mae dysgu gydol oes yn cynnig cyfleoedd i bawb ohonom, p’un ai yw hynny i symud i yrfa newydd, dysgu sgil newydd, cefnogi ein hiechyd a’n llesiant neu ddim ond gwneud rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau.
“Gall yr effaith fod yn drawsnewidiol a gallwn weld hynny drwy straeon ein henillwyr gwobrau. Mae ymroddiad enillwyr y gwobrau i ddysgu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau eu hunain a hefyd fywydau’r rhai o’u cwmpas.
“Mae addysg oedolion yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac mae’n hanfodol cefnogi a dathlu oedolion yng Nghymru sy’n croesawu dysgu, gan weithiau oresgyn heriau personol sylweddol i wneud hynny. Mewn byd sy’n newid yn gyflym, mae neges ‘paid stopio dysgu’ yn bwysicach nag erioed.”
More News Articles
« Pwysicach nag erioed bod llunwyr polisi’n gweld gwerth prentisiaethau, meddai NTFW —

