Itec Sgiliau a Chyflogaeth Yn Sicrhau Cytundeb AGP i Ddarparu Gwarant Swyddi

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Gareth Matthews portrait pic.

Gareth Matthews, Cyfarwyddwr Itec Sgiliau a Chyflogaeth

Mae Itec Sgiliau a Chyflogaeth yn falch o gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i sicrhau cytundeb gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (AGP) i ddarparu Cam 1 o’r rhaglen Gwarant Swyddi yn Ne-ddwyrain a De-orllewin Cymru.

Dyluniwyd y rhaglen i gefnogi pobl i mewn i gyflogaeth gynaliadwy trwy gynnal hyfforddiant wedi’i theilwra, cefnogaeth cyflogaeth a chyfleoedd swyddi gyda chyflogwyr lleol. Trwy’r cytundeb, bydd Itec Sgiliau a Chyflogaeth yn gweithio’n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a sefydliadau partner i helpu unigolion i ddatblygu’r sgiliau, hyder a phrofiad sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y farchnad llafur.

Dangosir y llwyddiant yma hanes cryf Itec o ddarparu rhaglennu cyflogadwyedd a sgiliau, yn ogystal â’i ymrwymiad i gefnogi cymunedau a chryfhau’r economi Cymraeg.

Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Gareth Matthews, Cyfarwyddwr Itec Sgiliau a Chyflogaeth:
“Rydym yn andros o falch ein bod wedi derbyn y cytundeb hwn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r rhaglen Gwarantu Swyddi yn cyd-fynd yn agos â’n cenhadaeth i rymuso unigolion drwy sgiliau a chyflogaeth. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r cyfranogwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid i greu gwahaniaeth gwerthfawr ar draws y De-ddwyrain a’r De-orllewin.”

Cychwynnir darpariaeth y Warant Swyddi yn unol ag amserlenni’r Adran Gwaith a Phensiynau, gyda ffocws ar greu canlyniadau cadarnhaol i gyfranogwyr a chyflogwyr

Itec Skills and Employment

Yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —