Cefnogi Aeddfedrwydd Digidol i Ddarparwyr Addysg Ôl-16 yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Yn Jisc, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cyfres o wasanaethau sy’n ymateb ymhellach i flaenoriaethau’r sector a nodwyd yn arolygon mewnwelediadau profiad digidol Cymru 2021, sy’n cefnogi aeddfedrwydd digidol eich sefydliad, yn buddsoddi mewn sgiliau digidol staff ac sy’n cyd-fynd â Digidol 2030.

Pobl yn eistedd wrth ddesg yn edrych ar gyfrifiadur

Gan ddefnyddio cyfuniad o offeryn drychiad digidol Jisc, gwasanaeth meithrin gallu digidol, bydd arolygon mewnwelediadau profiad digidol Cymru 2023 a gweithdai dylunio dysgu yn darparu data pwerus i chi er mwyn llywio penderfyniadau strategol, tra hefyd yn buddsoddi mewn galluoedd digidol staff a myfyrwyr o fewn eich sefydliad a ledled Cymru.

  • Mae’r offeryn drychiad digidol wedi’i ddatblygu i ddarparu offeryn hunanasesu ar-lein i uwch arweinwyr mewn addysg a sgiliau ôl-16 sy’n eich galluogi i ddilysu sefyllfa bresennol eich sefydliad yn erbyn pum thema allweddol a mapio’ch taith ddigidol yn mhob maes yn erbyn y model drychiad digidol. Mae’r adborth hunanasesiad yn ogystal â’r adnoddau, gwybodaeth a gwasanaethau rydym yn cyfeirio defnyddwyr atynt yn helpu sefydliadau i fuddsoddi’n ddoeth a gwneud cynnydd mwy sicr i’r lefel nesaf. Mae’r offeryn wedi’i fapio i Fframwaith Digidol 2030 ac, ar wahân i feysydd sydd â ffocws penodol i Gymru, mae’n cydberthyn yn dda â’i nodau a’i amcanion.
  • Mae arolygon mewnwelediadau profiad digidol Cymru 2023 yn darparu data pwerus ar sut mae’ch dysgwyr, staff addysgu a staff gwasanaethau proffesiynol yn defnyddio technoleg, beth sy’n gwneud gwahaniaeth a lle gellir gwneud gwelliannau. Gall yr arolygon, a fydd ar agor rhwng Hydref 2022 a Mawrth 2023, hefyd helpu i ddilysu allbynnau o’r offeryn drychiad digidol strategol e.e., a yw profiadau staff a myfyrwyr yn cyd-fynd â’ch safle digidol hunanasesu? Mae’r arolygon wedi’u mapio’n llawn i Fframwaith Digidol 2030, gan eich helpu i fesur cynnydd yn erbyn ei weledigaeth. Bydd Jisc hefyd yn defnyddio canlyniadau’r arolwg i gynhyrchu adroddiadau “cyflwr y genedl” sectoraidd yn amlygu cynnydd a meysydd blaenoriaeth cenedlaethol i fynd i’r afael â nhw yn 2024.
  • Mae offeryn darganfod meithrin gallu digidol Jisc yn galluogi staff a myfyrwyr i fyfyrio ar eu galluoedd digidol ac mae wedi’i deilwra i rolau neu feysydd ffocws penodol. Ar ôl ei gwblhau, caiff pob cyfranogwr ei gyfeirio at adnoddau perthnasol i gryfhau eu galluoedd a’u hyder. Mae dangosfwrdd sefydliadol dienw yn darparu map gwres o sgiliau staff i helpu i nodi a llywio meysydd ar gyfer datblygiad staff ehangach. Mae Jisc hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda chi ar lefelau sefydliadol a chymunedol i helpu cryfhau hyder a gallu digidol.
  • Mae gweithdai Dylunio Dysgu wedi’u eu creu mewn ymateb i adolygiad thematig Estyn Datblygiadau mewn ymarfer dysgu o bell a chyfunol ac yn archwilio ystod o ddamcaniaethau a modelau dysgu i gefnogi dyluniad effeithiol dysgu cyfunol a dysgu o bell. Maent hefyd yn rhoi cyfle i arbrofi gydag ystod o offer a thechnegau digidol y gellir eu hymgorffori mewn ymarfer addysgu. Mae adnoddau anghydamserol hefyd yn cael eu cyhoeddi ar Hwb, gan roi mynediad i staff ar amser ac mewn lle sy’n gyfleus iddyn nhw.
  • Mae’r holl wasanaethau hyn yn rhad ac am ddim i ddeiliaid contract a gomisiynir a’u partneriaid eu defnyddio trwy garedigrwydd cyllid Llywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at ymuno â chi ar eich taith drychiad digidol.

Bydd eich rheolwr perthynas Jisc yn gallu darparu rhagor o wybodaeth i chi.

Jisc

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —