Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! yn goleuo Wythnos Addysg Oedolion

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Aaron Jones standing outside the Penycae Inn.

Aaron Jones, enillydd y Wobr Sgiliau Gwaith yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion.

Un o uchafbwyntiau Wythnos Addysg Oedoilion 2026 – Medi 21–27 – oedd Gwobrau Ysbrydoli! Addysg, a gynhaliwyd yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd neithiwr (nos Fercher).

Mae’r gwobrau’n cydnabod pobl sydd wedi dangos penderfyniad i beidio byth â rhoi’r gorau i ddysgu. Ymhlith yr enillwyr mae Aaron Jones, uwch-weinydd rhan-amser sydd hefyd yn gwneud ambell i shifft yn y gegin yn Penycae Inn, ger Abertawe. Ef oedd enillydd y Wobr Sgiliau Gwaith.

Mae Aaron yn fodel rôl ysbrydoledig i bobl niwro-amrywiol ac mae’n dangos yn glir sut y gall dysgu gydol oes drawsnewid bywydau. Gwnaeth Aaron Brentisiaeth Lefel 3 mewn Arweinyddiaeth a Goruchwyliaeth Lletygarwch gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Mae wedi dechrau siarad yn gyhoeddus am ei daith ddysgu a’i niwro-amrywiaeth.

Y llynedd, bu Aaron yn siarad yn nigwyddiad rhwydweithio NTFW ym Mae Caerdydd, a bu yn y Ffair Brentisiaethau yn y Senedd gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian.

Enillwyr eraill Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion oedd: Gwobr Rhannu Dyfodol, Yassmein Hussein, Caerdydd. Gwobr Siaradwr Newydd, Hannah Rowlatt, Caerdydd. Gwobr Llais Dysgwr, Honey Jenkins, Abertyleri. Gwobr Newid Bywyd, Fred Murad, Sir Benfro. Gwobr Oedolyn Ifanc, Javier Griffiths-Payne, Y Barri. Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol, Agri-cation CIC, Bangor-is-y-Coed. Gwobr Dysgu ar gyfer Iechyd Gwell, Daniel Mason, Merthyr Tudful. Gwobr Heneiddio’n Dda, Julia Anderson, Tredegar. Gwobr Sgiliau Bywyd Hanfodol, Shelby Weaver-Slaughter, Caerdydd. Canmoliaeth uchel, Georgia Miggins, Abertawe.

Roedd popeth o lythrennedd digidol a sgiliau hanfodol i goginio a chaligraffi ar gael ledled Cymru yn ystod Wythnos Addysg Oedolion.

Cynhaliwyd cannoedd o ddigwyddiadau, gweithgareddau, cyfleoedd i ddysgu a chyrsiau di-dâl, ar-lein ac wyneb yn wyneb, gyda’r nod o roi hwb i ragolygon gyrfa, sgiliau, hyder a llesiant pobl.

Cyfrannodd darparwyr addysg oedolion a sefydliadau cymunedol at thema’r ymgyrch ‘Paid Stopio Dysgu’ drwy helpu pobl i ganfod cyfleoedd newydd.

Cydlynir Wythnos Addysg Oedolion gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ACT, Agored Cymru ac Addysg Oedolion Cymru.

Roedd yr wythnos yn gyfle i bobl gofleidio ail gyfle ym myd addysg a gwaith. Bu Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion ag ymgyrch wythnos o hyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn tynnu sylw at lwyddiannau oedolion sy’n dysgu gyda’r cwmni.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol yn Llywodraeth Cymru, Cefin Campbell AS:
“Mae Wythnos Addysg Oedolion yn dathlu grym addysg i drawsnewid bywydau. Bob dydd, mae oedolion ledled Cymru yn dysgu sgiliau newydd, yn magu hyder ac yn elwa ar gyfleoedd newydd iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.

“Rwy’n falch bod sefydliadau ledled Cymru yn cydweithio i gefnogi Wythnos Addysg Oedolion ac i ysbrydoli rhagor o bobl i gymryd y cam nesaf ar eu taith ddysgu. P’un ai a ydych chi’n dysgu er mwyn symud ymlaen yn y gwaith, yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu’n magu hyder, mae fy neges yn syml: Paid Stopio Dysgu.”

Dywedodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru:
“Mae Wythnos Addysg Oedolion am ddim ac ar gael i bawb ac mae’n gyfle i ysbrydoli oedolion i gymryd y cam cyntaf i fyd dysgu, dathlu llwyddiannau dysgwyr a’i gwneud yn haws canfod cyfleoedd yn lleol.”

“Mae darparwyr dysgu a sefydliadau cymunedol o bob math yn cymryd rhan eleni i gynnig cyfleoedd i oedolion ganfod cyfleoedd dysgu. Efallai mai digwyddiad a gynhelir yn ystod Wythnos Addysg Oedolion fydd y sbarc a fydd yn helpu rhywun i ail-ddarganfod llawenydd dysgu neu’n rhoi hwb i’w hyder i roi cynnig ar rywbeth newydd.”

Sefydliad Dysgu a Gwaith

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —