Lansio rhaglen newydd Llysgenhadon

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Tîm Cymru

Fel rhan o’u hymgyrch i sicrhau rhagoriaeth alwedigaethol, mae prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn lansio rhaglen Llysgenhadon ISEiW.

Bydd y rhaglen llysgenhadon yn cefnogi amcanion allweddol y prosiect, gyda phwyslais ar helpu pobl ifanc ledled Cymru i sicrhau rhagoriaeth. Disgwylir i’r llysgenhadon chwarae rhan ganolog yn helpu ein rhaglen ni i baratoi’r genhedlaeth nesaf o gystadleuwyr a gweithwyr.

Beth yw Llysgennad ISEiW?
Bydd llysgennad yn wyneb i Dîm Cymru a bydd yn hybu llwyddiant a phositifrwydd mewn perthynas â gweithgarwch ISEiW. Bydd y llysgenhadon yn ein cynrychioli ni fel cenedl a nhw eu hunain, boed hynny mewn digwyddiad, yn cefnogi sesiwn ‘Rhowch Gynnig Arni’ neu ar ymweliad â choleg neu brifysgol i hyrwyddo Cystadlaethau Sgiliau.

Pam bod yn Llysgennad ISEiW?
Mae nifer o fanteision i fod yn llysgennad. Yn ogystal â bod yn brofiad gwerthfawr, mae’n gyfle i rwydweithio, i gydweithio ac i rannu arferion gorau.

Dyma rai o fanteision allweddol ein rhaglen:

  • Ennill profiad gwerthfawr – Mae darpar gyflogwyr yn chwilio am weithwyr sydd â phrofiad a sgiliau cyflogadwyedd da. Bydd Llysgennad yn cael cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau hyn trwy helpu eraill.
  • Dysgu a datblygu sgiliau newydd – Bydd llysgennad yn cael cyfleoedd i’ch helpu i ddatblygu sgiliau newydd, yn cynnwys; Sgiliau cyflwyno, Sgiliau arwain, a Sgiliau ar gyfer y cyfryngau a chyfathrebu.
  • Rhwydweithio a Chydweithio – Bydd llysgennad yn cydweithio â llawer o bobl ledled Cymru, gan helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
  • Nwyddau a Dillad â Brand

Ydych chi’n nabod rhywun sy’n addas i fod yn Llysgennad?
Rhannwch y wybodaeth hon gyda myfyrwyr, prentisiaid, hyfforddeion a gweithwyr os teimlwch y byddent yn esiampl wych i eraill ac yn llysgennad ardderchog ar gyfer ein rhaglen.

Er mwyn ymgeisio neu ddysgu mwy am y rhaglen llysgenhadon, bydd angen iddynt fynegi diddordeb trwy ebostio info@inspiringskills.wales

www.inspiringskills.wales

More News Articles

  —