Prentisiaeth yn lansio gyrfa effeithiau arbennig yr enillydd gwobr Will

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Will Hougham standing against a colourful backdrop.

Mae Will Hougham wedi ffynnu fel prentis.

Mae Will Hougham yn teimlo ei fod yn ffodus o fod wedi medru parhau i weithio a dysgu fel prentis technegydd effeithiau arbennig yn “swigen waith” ei gyflogwyr yn ystod y pandemig COVID-19 a ddaeth â’r rhan fwyaf o’r byd i stop.

Roedd Will, sy’n 21 oed ac o Gaerdydd, newydd gychwyn ar ei yrfa yn y diwydiant sgrin pan gychwynnodd y cyfnod clo byd-eang, gan greu ansicrwydd i filiynau o weithwyr y Deyrnas Unedig a roddwyd ar ffyrlo.

Ond penderfynodd Real SFX, y cwmni o Gaerdydd lle’r oedd yn dysgu ei grefft fel technegydd effeithiau arbennig, ddefnyddio’r amser i adeiladu ar gyfer y dyfodol, gyda Will uchelgeisiol yn ganolog i’w ‘swigen waith’.

“Wrth edrych yn ôl, rwy’n ystyried fy hun yn lwcus i fod wedi parhau i weithio yn ystod yr amser hwnnw pan oedd bron bawb arall yr oeddwn yn ei adnabod yn methu gwneud hynny,” meddai Will.

“Fe wnes i helpu i symud gweithdai oedd yn golygu bod y cyfleuster Real SFX newydd yn barod pan wnaeth cynyrchiadau ddechrau ffilmio eto. Rhoddodd y cyfle i mi gael profiad ymarferol gwerthfawr gydag amrywiol fathau o offer a fu’n rhan fawr o gael fy nghyflogi gan y cwmni ar ôl gorffen fy mhrentisiaeth.”

I gydnabod ei ymroddiad, enillodd Will y Wobr Sgiliau Gwaith yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eleni yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Mae’r gwobrau yn cael eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, cynyddu hyder a helpu cymunedau i ddod yn fwy bywiog a llwyddiannus.

Meddai Joshua Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru:
“Mewn byd sy’n esblygu’n gyflym, mae’n hanfodol cefnogi a dathlu’r oedolion yng Nghymru sy’n mynd ati i ddysgu ar gyfnodau gwahanol yn eu bywydau. Mae eu hymrwymiad i ddatblygu sgiliau newydd nid yn unig yn trawsnewid eu bywydau eu hunain ond hefyd yn helpu i lunio dyfodol mwy gwydn a haws ei addasu i’n cymunedau.”

Mae gyrfa Will wedi ffynnu. Mae’r props a’r rigiau arbenigol y mae wedi eu creu wedi cael eu defnyddio ar sioeau teledu erbyn hyn. Mae hefyd wedi cwblhau cyrsiau mewn gweithredu peiriannau codi a phrentisiaeth Lefel 1 Diogelwch a Thrin Effeithiau Ffrwydron Arbennig, y ddau’n werthfawr i’w wneud yn haws ei gyflogi yn y diwydiant.

Mae Will yn rhannu’n hyn a ddysgodd trwy fentora’r genhedlaeth nesaf o brentisiaid Real SFX ac mae wedi arbed miloedd o bunnoedd i’w gwmni trwy ffurfio rhestr o bob ased oedd yn eiddo i’r busnes.

Mae cwblhau ei brentisiaeth wedi helpu Will i ddatblygu fel unigolyn trwy ei herio i fod yn fwy hyderus ynddo ei hun, a thrwy hynny oresgyn iselder a gorbryder oedd wedi golygu ei fod yn brin o hunanhyder.

“Mae llunio gyrfa wedi fy helpu i newid fy mywyd,” dywedodd. “Rwyf yn awr yn teimlo’n llawer mwy hyderus o’m sgiliau fy hun fel technegwr ac mae fy hyder wrth sgwrsio ag eraill mewn sefyllfaoedd cymdeithasol wedi gwella’n fawr.”

Cefnogodd Sgil Cymru o Gaerdydd daith ddysgu Will ac mae ei benderfyniad wrth hyrwyddo prentisiaethau ymhlith eraill sy’n cychwyn yn y diwydiant wedi gwneud argraff neilltuol arnynt.

“Nid yn unig roedd gwaith caled a pharodrwydd i addasu Will o fudd i’w dwf personol ond mae hefyd wedi cefnogi’r tîm yn Real SFX yn fawr,” dywedodd Sue Jeffries, asesydd arweiniol a chyfarwyddwr rheoli Sgil Cymru.

Sefydliad Dysgu a Gwaith

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —