Mae ar Lywodraeth Cymru ddyfodol i bobl ifanc, cyhoeddir mewn digwyddiad rhwydweithio

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Speakers from the event standing at the lectern.

Siaradwyr yn nigwyddiad rhwydweithio aelodau NTFW a gynhaliwyd yn y Pierhead, Bae Caerdydd.

Mae ar Lywodraeth Cymru ddyfodol i’r genhedlaeth bresennol o bobl ifanc ac mae’n rhaid iddynt fuddsoddi mewn sgiliau, clywodd digwyddiad rhwydweithio Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Daeth y digwyddiad, yn y Pierhead, Bae Caerdydd, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf, gyda’r cynigion yn cynnwys toriadau o £28 miliwn i raglenni cyflogadwyedd a rhewi cyllid prentisiaethau.

“Allwn ni ddim fforddio colli cenhedlaeth arall o dalent – rhaid inni droi uchelgais yn weithredu gyda’r buddsoddiad, y gydnabyddiaeth a’r cydweithio cywir gan y llywodraeth, cyflogwyr, darparwyr a’r sector ehangach,” meddai Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW. “Mae arnon ni ddyfodol iddynt ac mae hynny’n golygu buddsoddi mewn sgiliau, mewn pobl ac yng Nghymru.

“Ein cryfder yw cydweithio, herio lle mae angen, a sicrhau bod sgiliau a phrentisiaethau’n dal wrth galon dyfodol Cymru.”

Diolchodd i Cefin Campbell, Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol Llywodraeth Cymru, am ei ymrwymiad i gydweithio â’r NTFW ac i ddiogelu cyllid ar gyfer prentisiaethau yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

Wrth annerch y digwyddiad, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod Llywodraeth Cymru’n wynebu penderfyniadau anodd yn ei chyllideb ddrafft.

“Mae’r digwyddiad rhwydweithio hwn wedi dangos grym partneriaeth i drawsnewid bywydau drwy sgiliau,” meddai. “Wrth i’r llywodraeth, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant gydweithio, rydym yn adeiladu Cymru gryfach a mwy llewyrchus, lle caiff bawb cyfle i ddatblygu’r sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo.”

Daeth y digwyddiad â darparwyr dysgu seiliedig ar waith a rhanddeiliaid yn y sector ynghyd i rannu eu barn am oblygiadau datblygiadau cyfredol mewn polisi. Noddwyd y digwyddiad gan Kiera Marshall, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, Caerdydd a Phenarth.

Aed ati i ystyried yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu darparwyr dysgu, cyflogwyr a dysgwyr mewn cyfnod o newid arwyddocaol i raglenni sgiliau a chyflogadwyedd yng Nghymru.

Roedd yr ystafell yn llawn i gael mewnwelediad i Archwiliad Sgiliau Llywodraeth Cymru, adborth o’r Uwchgynhadledd Sgiliau a gynhaliwyd yn ddiweddar, a chlywed am y datblygiadau diweddaraf mewn ymgyngoriadau prentisiaethau a llwyddiant Tîm Cymru yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK a gynhaliwyd yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf.

Soniodd Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol polisi a buddsoddi, a Heather Davidson, pennaeth prentisiaethau, am y ffordd mae rôl Medr yn esblygu wrth lunio blaenoriaethau ariannu a’r rhaglen brentisiaethau ar gyfer y dyfodol. Medr sy’n ariannu ac yn rheoleiddio’r sector addysg drydyddol yng Nghymru.

Dywedodd Lisa Mytton fod y digwyddiad yn gyfle gwych i ddod â phobl o bob rhan o’r sector sgiliau a phrentisiaethau ynghyd, er mwyn rhannu profiadau, cael sgyrsiau onest am heriau, ac archwilio’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.

“O ddathlu talent a chyflawniadau anhygoel ein dysgwyr drwy WorldSkills, i gydnabod rôl hanfodol prentisiaethau o ran cefnogi cyflogwyr, tyfu ein heconomi a thrawsnewid bywydau, roedd un neges yn glir: allwn ni ddim gwireddu uchelgeisiau Cymru heb fuddsoddi mewn sgiliau a phobl,” meddai.

“Mae prentisiaethau’n fuddsoddiad yn ein heconomi, ein cymunedau a’n dyfodol. Rhaid i ni sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd, y gefnogaeth a’r llwybrau y maen nhw’n eu haeddu i adeiladu gyrfaoedd ystyrlon yma yng Nghymru.”

Siaradodd Matthew Allman, pennaeth prentisiaethau yn Llywodraeth Cymru, am yr ymgynghoriad presennol ar ddyfodol prentisiaethau, a ddaw i ben ar 4 Rhagfyr.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw symleiddio prentisiaethau drwy Safonau Prentisiaethau Cymru, gan gryfhau eu perthnasedd i gyflogwyr, mynediad i ddysgwyr, a gweithlu ac economi Cymru.

Soniodd Ioan Matthews, prif weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, am gynllun strategol y sefydliad ar gyfer 2027–32 – Prentisiaethau a’r Iaith Gymraeg: Adeiladu Gweithlu Dwyieithog i Gymru.

Mae’r cynllun yn amlinellu sut y gall addysg drydyddol a hyfforddiant gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg a datblygu gweithlu dwyieithog i Gymru. Mae’n nodi tair blaenoriaeth: darpariaeth drydyddol, y gweithlu addysg, a theithiau a phrofiadau dysgwyr.

Gweledigaeth hirdymor y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw bod dysgwyr yn defnyddio, cynnal a datblygu eu Cymraeg yn ystod eu haddysg drydyddol neu eu hyfforddiant, gan ategu’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith erbyn 2050, ochr yn ochr â thwf economaidd.

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —