Newid dy Stori gydag Wythnos Addysg Oedolion

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn cydweithio â nifer o bartneriaid i greu’r gronfa fwyaf o addysg ar-lein trwy blatfform Wythnos Addysg Oedolion sy’n cynnwys dros 800 o gyrsiau ac adnoddau ar-lein AM DDIM. Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion (21 – 27 Medi) bydd nifer o wahanol ddosbarthiadau meistr, sesiynau profi, gweminarau a thrafodaethau byw.

Platfform dysgu ar-lein Wythnos Addysg Oedolion

Mae rhaglen lawn y Dosbarthiadau Meistr i’w gweld yma

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i gofrestru’ch cyrsiau, eich tiwtorialau a’ch adnoddau ar-lein ar gyfer yr ymgyrch – ebostiwch alwevents@learningandwork.org.uk i gael gwybod sut i ddod yn bartner yn yr ymgyrch.

Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu ar gael. Maent wedi’u rhannu’n bum dosbarth, sef:

  • Sgiliau Digidol a Thechnolegol
  • Ymarfer, Iechyd a Llesiant
  • Gwneud a Chreu
  • Sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd
  • Ieithoedd a Chyfathrebu

Caiff Wythnos Addysg Oedolion ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol a digidol, ar y radio ac yn y wasg, gan dynnu sylw at wybodaeth a chyngor a welir ar wefan Cymru’n Gweithio.

Gallwch chi ymuno i hyrwyddo addysg a sgiliau oedolion ar lein yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Os hoffech chi hyrwyddo Dysgu Gydol Oes ledled Cymru, ymunwch ag L&W ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau a’r dolenni hyn:

Ymunwch yn y sgwrs:
#changeyourstory
#newiddystori
#AdultLearnersWeek #WythnosAddysgOedolion

Twitter – @LearnWorkCymru
Facebook – @learningandworkinstitute
Instagram – @adultlearnersweekwales

Mae adnoddau’r ymgyrch i’w cael yma ar wefan L&W.

Newid dy Stori yw’r pennawd allweddol ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion. Gallwch ddefnyddio’r ymgyrch i rannu’ch storïau, i ddathlu llwyddiant oedolion sy’n dysgu, ac i hyrwyddo’r addysg a’r sgiliau a gynigiwch i oedolion.

Yn ogystal, byddwn yn rhyddhau cyfres o bodlediadau Newid dy Stori wedi’u cyflwyno gan Nia Parry ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion. Dolenni a manylion i ddilyn.

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! 2020 ar 21 Medi a byddwn yn rhyddhau eu ffilmiau a rhagor amdanyn nhw a’u teithiau dysgu ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, David Hagendyk: “Gwyddom y gall dysgu newid bywydau oedolion ac mae’n bwysicach yn awr nag erioed i bobl gael cyfle i ailhyfforddi ar gyfer gwaith ac i ddysgu rhywbeth newydd er budd eu hiechyd a’u lles.

“Mae’r coronafeirws wedi taro pawb ohonom mewn rhyw ffordd. Mae addysg oedolion yn ffordd wych o’n helpu ni i gyd i baratoi ar gyfer yr adferiad ac mae’r holl dystiolaeth yn dangos y gall helpu pobl i gael gwaith a dyrchafiad, neu i ofalu am eu hiechyd a’u lles.
“Yn ystod y cyfnod cloi, trodd miloedd o bobl at gyrsiau ar-lein er mwyn cadw mewn cysylltiad ag eraill a dysgu rhywbeth newydd. Wrth i ni ddechrau dat-gloi’r economi a’n cymunedau, ni fu erioed yn bwysicach ailddechrau dysgu.”

Newid dy stori, a mynd i wefan Wythnos Addysg Oedolion i gael gwybod rhagor.

www.sefydliaddysguagwaith.cymru

More News Articles

  —