Siaradwyr yn galw am gydweithredu er mwyn ateb anghenion prentisiaid a chyflogwyr

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

NTFW Conference 2024 - keynote speakers.

Y prif siaradwyr yng nghynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.

Cydweithredu er mwyn ateb anghenion prentisiaid a chyflogwyr wrth iddynt ddatblygu oedd thema gyffredin y prif siaradwyr mewn cynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar brentisiaethau, sgiliau a thwf economaidd yng Nghymru.

Mewn cyfnod pan mae Llywodraeth Cymru’n cwtogi cyllid prentisiaethau, daeth tua 150 o bobl i gynhadledd lwyddiannus Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd. City & Guilds oedd y noddwr pennaf.

Diolchodd Rhian Edwards, dirprwy gyfarwyddwr addysg bellach a phrentisiaethau Llywodraeth Cymru, i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith am gydweithio â’r llywodraeth yng nghyfnod y “dewisiadau cyllidebol mwyaf poenus i Gymru ers datganoli”.

Canmolodd y berthynas a oedd wedi datblygu â’r sector ac addawodd barhau â’r agwedd “cyfathrebu agored” yn y cyfnod cyn i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) ddod yn gyfrifol am addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru ym mis Awst.

Bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £143 miliwn mewn “prentisiaethau o safon” yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dywedodd y bydd prentisiaethau mewn sectorau strategol-bwysig, yn cynnwys trafnidiaeth, iechyd a thai, yn cael eu cryfhau i feithrin gwytnwch wrth i’r amgylchedd economaidd newid.

Ymhlith yr amcanion eraill mae llenwi bylchau sgiliau, hybu cynhyrchiant a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy wella cyfleoedd am waith ac addysg i bobl o bob cefndir.

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’n trefn gadarn o weithio mewn partneriaethau i wneud i bethau da ddigwydd i bobl Cymru,” meddai i gloi.

Diolchodd cyfarwyddwr strategol NTFW Lisa Mytton i Rhian a’i thîm, yn ogystal ag i ddeiliaid contractau a gomisiynir gan NTFW, a ColegauCymru, am eu cydweithrediad yn ystod cyfarfodydd i drafod cwtogi’r gyllideb. Pwysleisiodd y bydd yn hanfodol dal i gydweithredu wrth drosglwyddo’r gwaith i CADY.

“Mae tirwedd cymwysterau’n newid yng Nghymru a dylid rhoi’r parch dyladwy i gymwysterau galwedigaethol a phrentisiaethau,” meddai. “Rhaid i ni barhau â’r trafodaethau ynghylch ‘parch cydradd’. Hefyd, mae angen cyhoeddi neges unol, gyson, gref yn hyrwyddo addysg alwedigaethol fel elfen ganolog, a werthfawrogir gan bawb, o ran dewis gyrfa, datblygiad cyflogwyr a thwf economaidd.

“Rydym yn awyddus i adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed yn y ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn dal i gael effaith wirioneddol.”

Soniodd Angharad Lloyd Beynon, rheolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau City & Guilds (y Cenhedloedd ac Iwerddon), fel yr holl brif siaradwyr eraill, am bwysigrwydd cydweithio drwy gydol y broses dysgu seiliedig ar waith, o Lywodraeth Cymru i’r dysgwyr a’r cyflogwyr.

Canmolodd y colegau a’r darparwyr hyfforddiant gan ddweud: “Yn ogystal â bod o fudd i unigolion, mae eu hymroddiad cadarn i gefnogi prentisiaid yn cyfrannu at ffyniant economaidd a lles cymdeithasol ein cenedl. Gadewch inni ddathlu a hyrwyddo’u hymdrechion wrth iddynt barhau i greu arweinwyr ac arloeswyr y dyfodol.

“Prentisiaethau yw asgwrn cefn ein heconomi. Maen nhw’n rhoi profiad ymarferol i unigolion ac, ar yr un pryd, yn mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau sy’n poeni llawer o ddiwydiannau. ”

Roedd prif weithredwr Agored Cymru, Darren Howells, a phrif weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, yn pwysleisio’r angen i’r holl bartneriaid yng Nghymru gydweithio i gryfhau’r system gymwysterau a chefnogi cyflogwyr a dysgwyr.

Anfonwyd neges fideo gan Luke Fletcher, AoS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru a chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Brentisiaethau, i gefnogi’r gynhadledd a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio â’r NTFW a ColegauCymru.

Tanlinellodd bwysigrwydd prentisiaethau i helpu Cymru i weithio tuag at Sero Net ac economi werdd.

Bu’r cynadleddwyr yn trafod sut i gyflawni potensial trwy brentisiaethau, grymuso pobl ar gyfer y dyfodol, grymuso cyflogwyr a sbarduno ffyniant economaidd gan “fynd ati heddiw i adeiladu llwyddiant yfory”.

Roedd pynciau’r gweithdai’n amrywio o ‘Tyfu BBaChau trwy ddatblygu sgiliau’ i ‘Ffeindio’ch ffordd trwy gyfleoedd a heriau AI’.

Meddai Angharad Lloyd Beynon: “Mae City & Guilds yn falch o fod yn noddwr pennaf cynhadledd sy’n rhoi pwyslais ar brentisiaethau a sgiliau er mwyn sbarduno twf economaidd. Rydym yn credu mewn grymuso unigolion â’r wybodaeth a’r arbenigedd i hybu ffyniant, gan feithrin dyfodol lle mae sgiliau’n llunio economi lewyrchus.”

yn ôl i’r brig>>

Postiwyd yn Cynhadledd NTfW, Newyddion | ← Negeseuon Hŷn Sylwadau mwy newydd →