Galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu prentisiaethau a’u paratoi at y dyfodol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Group photo of speakers.

Siaradwyr yn y digwyddiad ‘Paratoi Prentisiaethau at y Dyfodol: Maniffesto ar Waith’ a gynhaliwyd yn y Pierhead, Bae Caerdydd ddoe.

Galwyd ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu prentisiaethau a’u paratoi at y dyfodol mewn digwyddiad yng Nghaerdydd ddoe, a ninnau’n nesáu at etholiad y Senedd 2026.

Trefnwyd y digwyddiad gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) ar gyfer ei aelodau a gwahoddedigion yn y Pierhead, Bae Caerdydd, ac roedd yno amryw o siaradwyr blaenllaw â diddordeb brwd mewn prentisiaethau.

Roedd nifer o Aelodau’r Senedd yn bresennol ac un ohonyn nhw, Luke Fletcher, cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Brentisiaethau, oedd yn noddi’r digwyddiad.

Mae’r NTFW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith sy’n cyflenwi prentisiaethau a rhaglenni dysgu eraill ac, ym mis Mehefin, lansiodd ei faniffesto’n galw ar bob plaid wleidyddol a holl ymgeiswyr etholiad y Senedd i ymrwymo i ddyblu buddsoddiad mewn prentisiaethau er mwyn cefnogi 200,000 o brentisiaid dros dros dymor nesaf y Senedd.

Roedd y digwyddiad ddoe – Paratoi Prentisiaethau at y Dyfodol: Maniffesto ar Waith – yn cynnwys cyfraniadau gan randdeiliaid allweddol, fel Llywodraeth Cymru, Medr, FSB Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian ac un o brentisiaid arobryn y cwmni.

Canolbwyntiodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW, ar y pwyntiau allweddol yn nogfen y sefydliad ‘Maniffesto’r NTFW ar gyfer Prentisiaethau:
Adeiladu Economi Sgiliau’n Gyntaf i Gymru’ a chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.

Gyda’r nod o “adeiladu Cymru sy’n ffynnu ar sgiliau, cyfleoedd ac uchelgais
i bawb,” mae’r NTFW yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd y tu hwnt i gynlluniau presennol cyllideb ddrafft 2026-27 a buddsoddi’n fwy sylweddol mewn prentisiaethau. Mae’n galw am gyllid hirdymor, cynaliadwy sy’n eu gwneud yn gyfartal â mathau eraill o addysg ôl-16.

Yn ôl Lisa, rhaid rhoi prentisiaethau wrth galon polisi Llywodraeth newydd Cymru a galwodd am ddatblygu strategaeth sgiliau galwedigaethol, mewn partneriaeth â darparwyr, i benderfynu beth y mae angen ei wneud i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd.

Addunedodd i gydweithio â’r holl randdeiliaid i sicrhau bod rhaglenni prentisiaethau’n ymatebol, yn arloesol ac yn cyd-fynd ag anghenion sy’n datblygu yn y diwydiant.

Dywedodd Lisa: “Drwy gydweithio, gallwn lunio rhaglenni prentisiaethau sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â bylchau sgiliau, yn hybu cynhyrchiant ac yn hyrwyddo arallgyfeirio economaidd.”

Rhannodd Melanie Thomas, uwch-reolwr prentisiaethau Llywodraeth Cymru, y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, gwaith i’w wneud yn y dyfodol a chydweithio â rhanddeiliaid.

Soniodd Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol polisi gyda Medr, am y gwaith sydd ar y gweill ym maes prentisiaethau, a bu Joshua Miles, pennaeth newydd FSB Cymru, yn sôn am bwysigrwydd hyfforddiant a phrentisiaethau i fusnesau bach a chanolig Cymru.

Cyhoeddodd Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y dathlwyd ei ben-blwydd yn 30 oed yn ddiweddar, fod y cwmni wedi cyflenwi dros 20,000 o raglenni prentisiaeth mewn mwy na 4,500 o fusnesau ers ei sefydlu.

Cyflwynodd hi y prentis Aaron Jones a fu’n sôn am ei daith fel prentis yn y Penycae Inn, Penycae, Abertawe a’r effaith gadarnhaol a gafodd hynny ar ei fywyd.

Y digwyddiad hwn oedd y diweddaraf mewn cyfres a drefnwyd gan yr NTFW i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y gwaith a wneir ar eu rhan a chafwyd cyfleoedd gwerthfawr i wrando ar siaradwyr allweddol ac i rwydweithio.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —