Cynlluniau newydd i ariannu prentisiaethau’n peri pryder i ddarparwyr hyfforddiant Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Lisa Mytton, NTFW Cyfarwyddwr Strategol

Lisa Mytton, NTFW Cyfarwyddwr Strategol

Mae’r corff sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi codi pryderon am effaith cynlluniau arfaethedig ar y ffordd y caiff prentisiaethau eu hariannu.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi anfon ymateb cynhwysfawr gan y sector i ymgynghoriad gan Medr, rheoleiddiwr addysg drydyddol yng Nghymru, ynghylch y newidiadau arfaethedig.

Bwriad Medr yw cyflwyno model grantiau newydd ar gyfer Rhaglen Brentisiaethau Cymru, ym mis Awst 2027. Cyhoeddodd Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol Medr dros bolisi a buddsoddi, wrth gynhadledd NTFW ym mis Mawrth eu bod yn awyddus i barhau â rhaglen gref o gydweithio â darparwyr prentisiaethau.

“Rydym wedi ymrwymo i wireddu’n gweledigaeth, sef system addysg drydyddol sy’n ymateb i anghenion yr economi, dysgwyr a chyflogwyr a system sy’n canolbwyntio ar y dyfodol gan greu cyfleoedd, dewis, llwyddiant, positifrwydd a ffyniant i bawb sydd mewn partneriaeth â chi,” meddai.

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW: “Mae ein neges ni i Medr yn adlewyrchu barn a phryderon darparwyr hyfforddiant annibynnol ledled Cymru, gan dynnu sylw at faterion allweddol ynghylch cymhlethdod y system, tryloywder, cyllido ar sail canlyniadau ac effaith y newidiadau arfaethedig ar y gwaith.

“Rydym wedi pwysleisio bod angen canllawiau cliriach, seilwaith cadarn ar gyfer y system a dull o ariannu sy’n amddiffyn mynediad dysgwyr at brentisiaethau, cynaliadwyedd darparwyr a gallu prentisiaethau i sicrhau gwerth ehangach i gyflogwyr a chymunedau. Byddwn yn dal i ymwneud yn agos â Medr wrth i’r cynlluniau ddatblygu.”

Mae aelodau bwrdd NTFW wedi cyfarfod â Gyrfa Cymru hefyd i drafod ei gynllun strategol newydd ac wedi tanlinellu pwysigrwydd llwybrau pontio cryf i bobl ifanc, yn enwedig wrth hyrwyddo cyfleoedd pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol i ddilyn prentisiaethau.

Cafwyd anerchiad gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, AS, yn nigwyddiad NTFW, Sgiliau ar Waith, yn ddiweddar. Cyflwynodd Medr y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau cyfredol ac ymgynghoriadau a bu Cymwysterau Cymru yn sôn am ddiwygio cymwysterau galwedigaethol.

Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog neges gref o blaid prentisiaethau a chyhoeddodd gynlluniau ar gyfer archwiliad cenedlaethol o sgiliau ac uwchgynhadledd sgiliau o dan Lywodraeth newydd Cymru.

Yn ogystal, mae Lisa wedi trafod datblygu arweinyddiaeth gyda Medr a blaenoriaethau ar gyfer polisïau prentisiaethau, yn enwedig mewn cyfnod o dwf i’r sector ynni adnewyddadwy, gyda Llywodraeth Cymru.

Tanlinellodd bwysigrwydd prentisiaethau i economi Cymru wrth annerch digwyddiadau Ffederasiwn Cyrff Dyfarnu Cymru a Sefydliad y Gweithwyr Proffesiynol Cyflogadwyedd (IEP).

“Rydym wedi dechrau cyfarfod ag Aelodau o’r Senedd hefyd – rhai newydd a rhai sy’n dychwelyd – er mwyn dangos cryfder y system brentisiaethau yng Nghymru, gan sicrhau bod pob plaid yn clywed llais darparwyr annibynnol,” ychwanegodd Lisa.

“Mae wedi bod yn bleser mynd i ddigwyddiadau dathlu a noson wobrwyo gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian i gydnabod y pethau rhagorol mae dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr o’r rhwydwaith cyfan wedi’u cyflawni.”

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —