Pwysicach nag erioed bod llunwyr polisi’n gweld gwerth prentisiaethau, meddai NTFW
English | Cymraeg
“Wrth i Gymru barhau i siapio ei system sgiliau ar gyfer y dyfodol, mae’n bwysicach nag erioed bod llunwyr polisi’n deall gwerth prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith i ddysgwyr, cyflogwyr, cymunedau a’r economi.”
Dyna neges Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), wrth iddi baratoi ar gyfer chwarter olaf prysur 2026.
“Rwyf am gydweithio’n agos â Medr, Llywodraeth Cymru, Aelodau’r Senedd a rhanddeiliaid ehangach i sicrhau bod buddiannau darparwyr hyfforddiant annibynnol yn dal yn gadarn ar yr agenda a bod ein lleisiau’n cael eu clywed yn glir ac yn gyson,” pwysleisiodd.
Mae NTFW yn cynrychioli darparwyr hyfforddiant annibynnol ledled Cymru sy’n darparu prentisiaethau a rhaglenni dysgu eraill ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Lisa fod y misoedd diwethaf wedi dangos cryfder, gwydnwch ac ymrwymiad darparwyr hyfforddiant sy’n rheoli diwygiadau arfaethedig Medr ym maes cyllido prentisiaethau a threfniadau newydd ar gyfer grantiau.
Erbyn hyn mae llawer o ddarparwyr yn cwblhau cam cyntaf y broses newydd ar gyfer ymgeisio am grantiau, ac mae hynny wedi codi llawer o gwestiynau.
Roedd yn canmol Medr am ymateb a rhoi diweddariadau yn rheolaidd drwy gydol y broses gan helpu darparwyr hyfforddiant i ganfod eu ffordd trwy’r newidiadau sylweddol. Addawodd weithio mewn ffordd adeiladol i fynd i’r afael â materion sy’n dod i’r amlwg.
Un o flaenoriaethau pwysig NTFW a’i aelodau yw mynd i’r afael â mater cyllido rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Mae NTFW wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price AS, ynghylch y cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n methu cael cymorth am nad oes lle ar y rhaglen a bod y rhestrau aros yn hir.
“Rydym yn poeni bod yr oedi cyn i bobl ifanc gael elwa ar y ddarpariaeth yn golygu bod perygl i ni eu colli ar gam hollbwysig yn eu datblygiad. Gallai gyfrannu at gynnydd yn nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET),” ychwanegodd Lisa.
Ar ôl cydweithio â Colegau Cymru i gasglu tystiolaeth, mae Lisa’n gobeithio cyfarfod â’r Gweinidog i ystyried atebion posibl a fyddai’n sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen pan fydd arnynt ei hangen.
Yn ogystal, yn ddiweddar, mae’r NTFW wedi cyflwyno ymatebion i ymgynghoriad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar eu cynllun strategol, i alwad Archwiliad Sgiliau Llywodraeth Cymru am dystiolaeth, ac i Bwyllgor Economi, Ynni a Chysylltedd y Senedd.
“Rydym wedi tynnu sylw’n gyson at gyfraniad hollbwysig prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith at economi a chymunedau Cymru,” meddai Lisa.
“Rydym wedi galw hefyd am fwy o waith i daclo anweithgarwch economaidd, mynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer y bobl ifanc NEET, sicrhau cyllid hirdymor cynaliadwy ar gyfer rhaglenni sgiliau a sicrhau cysylltiad cryfach rhwng datblygu economaidd a pholisi sgiliau.
“Rydym wedi pwysleisio bod angen i lwybrau galwedigaethol gael yr un parch â llwybrau academaidd, gan gydnabod y gall prentisiaethau fod yn ddewis cyntaf i ddysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.”
Roedd seremonïau graddio’r darparwyr hyfforddiant Educ8 ac Itec a Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedoilion 2026 yn tanlinellu gwerth prentisiaethau a rhaglenni dysgu eraill, meddai“Roedd yn ysbrydoliaeth gweld dysgwyr yn cael eu cydnabod am eu gwaith caled, eu penderfyniad a’u llwyddiant,” ychwanegodd. “Dangosodd y seremonïau hyn fod rhaglenni dysgu a sgiliau ledled Cymru yn gallu newid bywydau, gan ein hatgoffa pam mae ein sector yn bwysig.
“Y tu ôl i bob prentisiaeth, rhaglen gyflogadwyedd a chyfle am hyfforddiant mae unigolyn sydd â gwell rhagolygon ar gyfer y dyfodol diolch i ymroddiad ac arbenigedd darparwyr ar draws ein rhwydwaith.”
More News Articles
« Dysgu gydol oes: pam mae buddsoddi yn eich pobl yn golygu buddsoddi yn eich busnes —


