Bwrw golwg ar Raglen Brentisiaethau newydd i Gymru a’r etholiad i’r Senedd

Y prif siaradwyr yng nghynhadledd NTFW (o’r chwith) Patrick Craven o City & Guilds UK, Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW, Rhian Edwards o Medr, Dr Lowri Morgans o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Darren Howells, prif weithredwr Agored Cymru, y noddwr pennaf.
Roedd datblygu Rhaglen Brentisiaethau newydd i Gymru a’r rhagolygon am fuddugoliaeth i Blaid Cymru yn yr etholiad i’r Senedd ar 7 Mai yn bynciau allweddol yng nghynhadledd flynyddol yr ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith dydd Mawrth.
‘Llunio Sgiliau ar gyfer Cyfnod Newydd’ oedd thema’r gynhadledd a drefnwyd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled y wlad, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn awyddus i gael dweud eu dweud am y ffordd yr effeithir ar eu gwaith yn y dyfodol gan fodel newydd grantiau cyllido Rhaglen Brentisiaethau Cymru, a gynigir gan Medr, rheoleiddiwr addysg drydyddol yng Nghymru.
Bydd Medr yn ymgynghori â darparwyr am y rhaglen newydd yn yr haf eleni, cyn iddi gael ei chyflwyno ym mis Awst 2027.
Yn ystod gweithdy gan Medr yn y gynhadledd, cododd cynadleddwyr gwestiynau ynghylch seilio’r model ariannu ar ganlyniadau, gan sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu fframwaith ac yn symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy. Maent yn awyddus i ddysgwyr gael eu cydnabod am ennill cymwysterau a chyflawni rhannau o fframweithiau hefyd.
Awgrymodd cynrychiolwyr y dylid creu cymelliadau i gyflogwyr, yn enwedig fusnesau bach a chanolig, i gyflogi prentisiaid ac y dylid sicrhau bod prentisiaethau’n cael yr un parch ag addysg uwch.
Pwysleisiodd y prif siaradwyr fod angen i’r rhaglen newydd fod yn hyblyg gan ymateb i anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi wrth iddynt ddatblygu ac i flaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru.
Cafwyd canmoliaeth hefyd i’r rhaglen brentisiaethau bresennol am fod yn gryf ac i ymarferwyr am eu hymrwymiad i brentisiaid.
Dywedodd Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol polisi a buddsoddiad Medr: “Rydym wedi ymrwymo i wireddu’n gweledigaeth, sef system addysg drydyddol sy’n ymateb i anghenion yr economi, dysgwyr a chyflogwyr a system sy’n canolbwyntio ar y dyfodol gan greu cyfleoedd, dewis, llwyddiant, positifrwydd a ffyniant i bawb mewn partneriaeth â chi.
“Mae prentisiaethau’n ganolog i’r gwaith o greu economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru. Maen nhw’n llwybr uniongyrchol i sectorau blaenoriaeth, yn hybu twf mewn cynhyrchiant ac yn galluogi pobl i ennill cymwysterau o ansawdd da wrth weithio.”
Pwysleisiodd fod Medr yn awyddus i barhau â’r cydweithio cryf sydd rhyngddo a’r rhwydwaith darparwyr yn y rhaglen newydd.
Cafodd rhaglen brentisiaethau Cymru ei chanmol gan Darren Howells, prif weithredwr Agored Cymru, noddwr pennaf y gynhadledd. Dywedodd ei bod gyda’r gorau yn y byd a’i bod yn ddyfais strategol i sicrhau gwydnwch cenedlaethol a chystadleurwydd economaidd.
Ychwanegodd: “Gall prentisiaethau lunio sgiliau ar gyfer cyfnod newydd yng Nghymru ac, yn wir, mae’n rhaid iddyn nhw wneud hynny. Nid rhywbeth i’w wneud ‘os nad y brifysgol yw’r lle i chi’ ydyn nhw. Maen nhw’n fodel effeithiol ag iddo werth mawr, ac yn ffordd o ennill cyflog wrth ddysgu sy’n cyfateb yn uniongyrchol i alw’r farchnad lafur.
“Mae’n gweledigaeth ni’n glir ac yn gyson – galluogi unigolion i ennill y sgiliau a’r cymwysterau y mae arnyn nhw eu hangen i wireddu eu potensial, cyfoethogi eu bywydau a chyfrannu at eu cymunedau ac at economi gref.
“Rhaid i ni fod yn ddewr, yn arloesol a gwthio’r ffiniau i wneud gwahaniaeth heb ostwng y safon.”
Soniodd Jo Kiernan, cyfarwyddwr yn Cavendish Cymru, am yr arolygon barn ynghylch yr etholiad i’r Senedd. Rhagwelai y bydd Plaid Cymru’n arwain Llywodraeth nesaf Cymru ond ei bod yn debygol y bydd angen cynghrair rhyngddi a’r Blaid Lafur neu’r Blaid Werdd i lywodraethu’n llwyddiannus.
Mae angen 49 Aelod o’r Senedd ar Blaid Cymru i sicrhau mwyafrif, a dywedodd fod hynny’n annhebygol, ond bod arweinydd y blaid Rhun ap Iorwerth yn awyddus i lywodraethu heb gynghrair.
Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW, fod y gynhadledd yn hynod ddifyr ac yn ysgogi pobl i feddwl wrth i’r sector dysgu seiliedig ar waith baratoi ar gyfer “newid sylweddol”.
“Mae heddiw wedi’n hatgoffa mewn modd pwerus fod cryfder ein sector wedi’i seilio ar ein pobl a’n cydweithrediad,” meddai. “Rydyn ni’n barod am newid a chyfleoedd newydd ac rydym yn wybodus, yn uchelgeisiol ac yn unedig yn ein cred bod rhaid i brentisiaethau a sgiliau barhau’n ganolog i bolisïau Llywodraeth newydd Cymru.”
Y siaradwyr eraill oedd Luke Fletcher, AS Plaid Cymru a chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Brentisiaethau, Dr Lowri Morgans, uwch-reolwr addysg bellach a phrentisiaethau yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Patrick Craven, cyfarwyddwr materion cyhoeddus, partneriaethau ac ymgysylltu yn City & Guilds UK, noddwr cyswllt y gynhadledd.
Cafwyd saith gweithdy hefyd, yn cael eu rhedeg gan Medr, Cymwysterau Cymru, Resilient Futures Coach, Gyrfa Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg, Estyn a’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.
More News Articles
« Prentisiaethau ar gyfer Cyfnod Newydd – Sgwrs gydag Agored Cymru —

