‘Camu Mlaen’ – Ymgyrch Cyfryngau Cymdeithasol Gogledd Cymru+

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg


 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Mae ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yn rhywbeth sy’n cael ei drafod yn rheolaidd, ac mae’n rhywbeth rydym ni gyd yn teimlo’n angerddol yn ei gylch. Er mwyn mynd i’r afael â’r angen i hysbysu pobl ifanc am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y rhanbarth, cynhaliodd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSR) ymgyrch cyfryngau cymdeithasol o’r enw ‘Camu Mlaen’ yn ddiweddar. Wedi’i gynllunio i leihau’r pwysau ar bobl ifanc i wybod pa lwybr y maent am ei ddilyn, daeth ‘Camu Mlaen’ â straeon ynghyd gan bobl o bob rhan o’r rhanbarth sydd i gyd wedi dilyn amrywiaeth o wahanol lwybrau tra’n dal i gyflawni gyrfaoedd llwyddiannus.

Mae pobl ifanc yn aml yn poeni am eu canlyniadau TGAU a Lefel A, gan deimlo y bydd eu dyfodol cyfan yn cael ei bennu gan y canlyniadau y cawn. Mae’r PSR yn cydnabod pwysigrwydd amlygu’r holl lwybrau gyrfa posibl sydd ar gael i bobl ifanc sy’n cwblhau eu TGAU a’u Lefel A ac roedd yn awyddus i ddangos nad yw’r cam cyntaf yr ydym ni fel unigolion yn ei ddewis ar ôl gadael yr ysgol yn cyfyngu ar ein cynnydd gyrfa yn y dyfodol. Unai os ydych yn dewis dilyn prentisiaeth, cwblhau gradd neu fynd yn syth i’r gwaith, nid oes terfyn ar yr hyn y gallwch ei gyflawni gan fod pob cam a gymerwn yn bwysig fel rhan o’n taith!

Gan rannu llu o straeon o bob cefndir, roedd yr ymgyrch yn llawn dathliadau o yrfaoedd llwyddiannus a straeon ysbrydoledig, gan gynnwys mewnwelediadau gan ganwr lleol, peirianwyr, cyfrifwyr a Chyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru, Alwen Williams. Roedd yr artist lleol Lisa Eurgain Taylor a’r canwr Gruffydd Wyn hefyd ymhlith y cyfranwyr i’r ymgyrch.

Mae’r straeon a rannwyd wedi dangos nad oes unrhyw yrfa yn fwy llinol a bod pob llwybr gyrfa, hyd yn oed y llwybrau llai traddodiadol, yn gallu arwain at yrfaoedd gwerth chweil a llwyddiannus yng Ngogledd Cymru. Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o unigolion o wahanol gefndiroedd yn dod at ei gilydd i eiriol dros unigolion i ddilyn eu hangerdd a chyrraedd eu nodau yn y ffyrdd sydd fwyaf addas ar eu cyfer. Mae’r PSR yn gobeithio eu bod wedi ysbrydoli unigolion sy’n ansicr o’u camau nesaf i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael iddynt.

Ar ôl blwyddyn lwyddiannus arall, gadewch i ni obeithio y gall yr ymgyrch barhau i ysbrydoli unigolion dros y blynyddoedd nesaf!

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —