
Cyntaf yng Nghymru: Hyfforddiant Portal yn Ennill Dwbl Blatinwm gan IIP

Tîm Portal yn dathlu llwyddiant dwbl Blatinwm Buddsoddwyr mewn Pobl yn ystod Diwrnod Strageol diweddar y cwmni. Rhes flaen (o’r chwith i’r dde): Janice Hart, Cyfarwyddwr Ansawdd; Gwawr Booth, Rheolwr Gyfarwyddwr; a Clare Jeffries, Cyfarwyddwr Gweithrediadau.
Mae Hyfforddiant Portal yn falch iawn i gyhoeddi eu bod wedi ennill achrediad Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP) Buddsoddi mewn llesiant. Gyda’i achrediad presennol IIP Buddsoddi mewn Pobl ar lefel platinwm, mae’r garreg filltir ddiweddaraf hon yn gosod Portal fel y darparwr hyfforddiant cyntaf yng Nghymru i ddal y ddwy safon blatinwm ar yr un pryd.
Sefydlwyd Portal yn 2010. Maent yn ddarparwyr hyfforddiant dwyieithog deinamig ac arloesol, sy’n cefnogi sefydliadau i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth, yn ogystal â gallu eu gweithlu i hyfforddi a mentora. Ei genhadaeth yw codi safonau ac ysgogi perfformiad ymhlith gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sectorau addysg, busnes, chwaraeon ac elusennol.
Mae’r llwyddiant diweddaraf hwn yn adeiladu ar hanes cryf Portal gyda IIP, gan eu bod wedi dal statws dwbl aur o’r blaen ac ennill gwobr Busnes Bach y Flwyddyn yn eu Seremoni Wobrwyo yn 2021. Mae cyrraedd lefel platinwm, sef y lefel uchaf o achrediad, yn adlewyrchu ymrwymiad eithriadol y sefydliad i’w bobl, ei ddiwylliant gwaith a’i lesiant.
Mae achrediad platinwm yn dangos bod Portal nid yn unig yn bodloni’r safonau ond hefyd yn eu rhagori, gyda arferion eithriadol sy’n cefnogi lles cymdeithasol, corfforol a seicolegol, ochr yn ochr â strategaeth pobl sy’n cael ei harwain gan werthoedd cryfion.
Dywedodd Paul Devoy, Prif Weithredwr Buddsoddwyr mewn Pobl:
“Llongyfarchiadau i Portal. Mae ennill achrediad platinwm Rydym yn buddsoddi mewn llesiant yn ymdrech wych i unrhyw sefydliad, ac mae’n rhoi Portal ymhlith cwmniau arbennig gyda llu o sefydliadau sy’n deall gwerth llesiant.”

Dathlu llwyddiant: Gwawr Booth, Rheolwr Gyfarwyddwr Portal gyda Sarah Heenan, Rheolwr Pobl a Datblygiant, a chydweithwyr Dawn Rice a Jonathan Watkins-Stuart, sydd wedi bod gyda’r cwmni ers dros i ddeng mlynedd, yn derbyn gydag anrhydedd achrediad dwbl Blatinwm Buddsoddwyr mewn Pobl ar ran Portal.
Dwedodd Gwawr Booth, Rheolwr Gyfarwyddwr Hyfforddiant Portal, wrth fynegi ei balchder a’i hemosiwn pur yn y llwyddiant diweddaraf hwn: “Rydyn ni’n hollol orfoleddus yma yn Portal. Rydych bob amser yn gobeithio fod pawb yn teimlo’r empathi a’r gefnogaeth rydyn ni’n ceisio eu hymestyn a’u gwreiddio ar draws y cwmni, y ddau ohonynt yn rhan o’n gwerthoedd craidd, ond pan ddaw gwobr fel hon ar lefel platinwm tuag atoch, mae’n rhoi hwb o hyder a sicrwydd eich bod ar y trywydd iawn.
Mae rhai dyfyniadau’n ysbrydoli ein gweithredoedd yma yn Portal, ac un sy’n sefyll allan yw: ‘Dylech wastad ofalu am y rhai sy’n gofalu amdanoch chi.’
Rydyn ni wedi ceisio ymgorffori hyn, gan ein bod yn gwybod bod ansawdd yr hyn rydyn ni’n ei ddarparu a gwres ein diwylliant yn deillio’n uniongyrchol o’n tîm. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gofalu amdanynt, yn union fel y maen nhw gofalu am y cwmni gyda siwt angerdd. Mae bywyd yn taflu ambell rwystr tuag atom, ac rydyn ni’n llwyr gredu mewn cefnogi pawb gydag empathi a charedigrwydd.”
Dywedodd Sarah Heenan, Rheolwr Pobl a Datblygu yn Portal:
“Yn Portal, nid ydym yn trin llesiant fel prosiect unwaith-ac-am-byth, mae’n rhan greiddiol o’n diwylliant a’n profiad bob dydd. Mae’n bwysig i ni fod pob aelod o’n tîm yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u grymuso i ffynnu yn eu rôl. Mae’r tim wastad wedi bod wrth galon popeth a wnawn, ac mae eu llesiant wedi’i wreiddio yn y ffordd rydym yn gweithio, yn arwain ac yn tyfu gyda’n gilydd. Mae’r gydnabyddiaeth hon gan Buddsoddwyr mewn Pobl yn dystiolaeth wirioneddol o’r ymrwymiad hwnnw ac i angerdd, gofal a chydweithrediad ein timau. Mae’n adlewyrchu cryfder ein diwylliant a’r gred mai pan fydd pobl yn ffynnu, bydd sefydliadau’n gwneud hynny hefyd.”
Wrth i Portal ddathlu’r garreg filltir ddiweddaraf hon, mae ei ffocws yn aros yn glir: parhau i gefnogi a buddsoddi yn eu tîm anhygoel, a helpu unigolion a sefydliadau ledled Cymru i dyfu a ffynnu.