Prentis yn cael ei anrhydeddu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Mewn seremoni ddiweddar yng Ngholeg Menai, Dafydd Morris Jones o Fôn dderbyniodd wobr 2018 Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) i’r “Prentis sydd wedi Gwella Fwyaf”.

Prentis yng nghwmni Orthios Eco Parks Ltd ym Môn yw Dafydd a gwnaeth ei benderfyniad a’i ymroddiad i’w waith argraff fawr ar ei benaethiaid, ei gydweithwyr, ei diwtoriaid a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol. Mae hefyd wedi bod yn barod i iawn i hyrwyddo pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) i ddisgyblion mewn digwyddiadau STEM lleol.

Dyma’r ail wobr i Dafydd ei hennill mewn llai na 12 mis. Yn gynharach eleni, enillodd wobr ‘Prentis Peirianneg y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Prentisiaethau Grŵp Llandrillo Menai.

Yn y digwyddiad, dywedodd Gareth Cemlyn Jones, Cadeirydd Rhanbarth Glannau Mersi a Gogledd Cymru o’r IMechE:

“Mae Dafydd wedi profi ei fod yn ŵr ifanc brwdfrydig ac ymroddgar iawn sy’n dysteb i’w broffesiwn. Nid yn unig mae’n ymestyn ei hun i gwblhau cyrsiau ychwanegol er mwyn ehangu ei sgiliau a’i wybodaeth, ond mae hefyd yn llysgennad gwych i’w gyflogwyr yn Orthios ac i’r diwydiant Peirianneg.

“Yn IMechE rydym yn credu’n gryf bod posib i ni newid y byd drwy beirianneg. Rydym yn dod o hyd i dalentau newydd, ac yn eu meithrin. Rydym yn helpu peirianwyr i ddatblygu gyrfaoedd ac ymgymryd â phroblemau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i ni i gyd wedi iddynt gael eu datrys.

“Drwy ei waith yn hyrwyddo pynciau STEM mewn ysgolion lleol a’i brentisiaeth yn Orthios, mae Dafydd yn dangos ei ymrwymiad i Beirianneg. Mae ganddo yrfa addawol o’i flaen.”

Prentis ym maes Peirianneg Fecanyddol yw Dafydd. Mae eisoes wedi cwblhau lefel 2 ei brentisiaeth ac ar ei ffordd i gwblhau ei lefel 3.

Dywedodd Wendy Williams o gwmni Orthios:

“Ymunodd Dafydd ag Orthios fel prentis yn Chwefror 2016 ac ers hynny mae wedi cael profiad o weithio ar amrywiaeth o dasgau yn ogystal â gwneud gwaith cynnal a chadw peirianegol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at Ddiploma Estynedig EAL NVQ3 mewn Cynnal a Chadw Peirianegol ac yn canolbwyntio ar Dechnegau Cynnal a Chadw Cyfanswm Allbwn (TPM).

Rydym yn hynod o falch o Dafydd ac yn dymuno pob llwyddiant iddo.”

Dywedodd Dafydd, “Ers dechrau ar fy mhrentisiaeth rydw i wedi datblygu gwell dealltwriaeth o weithdrefnau cynnal a chadw ac offer mecanyddol. Rydw i’n gwybod yn well rŵan sut maen nhw’n gweithio a beth yw’r symptomau gwahanol sy’n digwydd pan fydd rhannau’n methu.

Mae bod yn rhan o dîm Orthios wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus, ac mae’r gefnogaeth rydw i’n ei chael gan fy mentor a ‘nghydweithwyr yn Orthios yn arbennig.”

Cwmni arbenigol ym maes datblygu atgynhyrchiol yw Orthios ac mae ei holl ethos yn ymwneud â hyrwyddo cynaliadwyedd ac economi gylchol.

Bwriada Orthios ddatblygu ei Ganolfan Brosesu Polymer ar safle Caergybi. Canolfan yw hon sy’n troi gwastraff plastig yn olew er mwyn mynd i’r afael â phroblem enbyd gwastraff plastig a llygredd yn y DU a’r UE.

Mae Orthios wedi cael caniatâd i ddefnyddio adeiladau presennol y cyn waith alwminiwm i brosesu plastig yn gynnyrch uchel ei werth.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Orthios wedi cynnal asesiad manwl o nifer o dechnegau prosesu polymer ac wedi dod i bartneriaeth â darparwr technoleg yn ogystal â chreu cysylltiadau ag ymgynghorwyr blaenllaw ym maes peirianneg a’r amgylchedd.

Mae Orthios wedi ymroi’n llwyr i’r cynlluniau hyn a bydd yn rhoi diweddariad i’w randdeiliaid pan fydd yr amser yn briodol.

I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau gyda Busnes@LlandrilloMenai ewch i gllm.ac.uk/busnes neu ffonio 08445 460 460.

More News Articles

  —