Prentisiaid Gwesty Hamdden y Celtic Manor yn cynnig profiad pum seren

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

The Celtic Manor Resort’s head of learning and development Tracy Israel (centre) with apprentices Huw Powell, Paige Richards, Abbie Blud, Agnieszka Klimek, Aaron Morse, Anne Hatcher and Perry Williams.

Pennaeth dysgu a datblygu Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Tracy Israel, gyda phrentisiaid.

Cafodd tîm brwd, medrus ac uchelgeisiol ei greu o ganlyniad i raglen brentisiaethau a fu’n rhedeg ers naw mlynedd yng Ngwesty Hamdden pum seren enwog y Celtic Manor ger Casnewydd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r ganolfan wedi recriwtio 386 o brentisiaid ac, ar hyn o bryd, mae’n cyflogi 119 mewn gwahanol rannau o’r busnes. Mae wedi ennill nifer o wobrau sy’n gysylltiedig â’i rhaglen brentisiaethau.

Mae Gwesty Hamdden y Celtic Manor yn un o’r cwmnïau sydd ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celftic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Roedd Gwesty Hamdden y Celtic Manor yn gweld bod angen tîm pum seren er mwyn cynnig profiad pum seren i’w westeion. Sefydlodd dîm dysgu a datblygu mewnol ac mae’n cydweithio â darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar ei fframweithiau.

Dywedodd Tracy Israel, Pennaeth Dysgu a Datblygu Gwesty Hamdden y Celtic Manor “Mae’r rhaglen brentisiaethau’n cefnogi nod y busnes sef datblygu ein doniau ein hunain trwy feithrin agwedd gadarnhaol at letygarwch a sicrhau bod pob gweithiwr yn cael y sgiliau cywir, sy’n cyrraedd y safonau angenrheidiol. ”

Ar hyn o bryd, mae gan y busnes 17 o fframweithiau, yn amrywio o Brentisiaethau Sylfaen a Phrentisiaethau Uwch mewn Busnes a Gweinyddu, i Lefel 2 mewn Glaswellt Chwaraeon ar gyfer ei gwrs golff.

Yn ddiweddar, lansiodd y cwmni Raglen Brentisiaethau ddwy flynedd newydd sbon mewn Gwestai a Lletygarwch a bydd yn recriwtio dair gwaith y flwyddyn.

Bydd portffolio o ddysgu ychwanegol ar gael i’r prentisiaid, trwy weithdai ac e-ddysgu, a bydd ganddynt app mewnol sy’n caniatáu iddynt gyfathrebu a chysylltu ag eraill.

Dywedodd Chris Bason o Hyfforddiant Cambrian: “Mae’n rhyfeddol beth y gellir ei wneud â llwyfannau e-ddysgu ac apiau a ddatblygir yn unswydd er mwyn datblygu staff a chyfathrebu.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Gwesty Hamdden y Celtic Manor ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —