Prentisiaid yn atgyfnerthu busnes Tata Steel

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Training delivery manager Huw Mathias with apprentices at Tata Steel in Port Talbot.

Y rheolwr cyflenwi hyfforddiant, Huw Mathias, gyda phrentisiaid ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot.

Yr her o recriwtio gweithwyr medrus mewn gweithle byd-eang cystadleuol oedd un o’r prif resymau pam y datblygodd Tata Steel ei raglen brentisiaethau bresennol.

Mae dros 6,300 o bobl yn gweithio gyda’r cwmni yng Nghymru, 211 ohonynt yn brentisiaid. Gan fod y gweithlu’n heneiddio, mae angen i’r cwmni sicrhau ei fod yn hyfforddi ac yn datblygu gweithwyr medrus a fydd yn gallu parhau â’r gwaith dros y blynyddoedd nesaf.

Mae Tata Steel yn un o’r cwmnïau sydd ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Facro-gyflogwr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Dywedodd Huw Mathias, Rheolwr Cyflenwi Hyfforddiant gyda Tata Steel ym Mhort Talbot: “Ein gobaith ni yw y bydd pawb sy’n cwblhau’r rhaglen yn cael gyrfa faith a llwyddiannus yn y diwydiant dur ac y byddant yn dal i gyfrannu mewn ffordd gadarnhaol at economi Cymru a’r economi ehangach.

“Mae’r rhaglenni hyn yn hybu gallu’r busnes ac yn ei helpu i newid yn ôl yr angen trwy chwistrellu talent newydd i’r sefydliad, gwella’r broses trosglwyddo gwybodaeth a chynllunio olyniaeth.”

Bu gan Tata Steel raglen brentisiaethau ers dros hanner canrif. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cydweithio â Choleg Pen-y-bont ac yn cyflenwi pum fframwaith mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg – Crefft a Thechnegydd, Prentisiaethau Uwch mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg Uwch Lefel 4 a Gwyddorau Bywyd a Diwydiannau Gwyddonol Cysylltiedig, Prentisiaeth ar gyfer Technegwyr Labordy a Thechnegwyr Gwyddoniaeth, a Phrentisiaeth Sylfaen mewn Prosesu Metal a Gwaith Cysylltiedig.

Esboniodd Huw bod y cwmni’n elwa ar y rhaglen trwy gael “llif parod o fedrusrwydd”. Yn ogystal, mae’r prentisiaid yn elwa trwy gael eu talu a’u haddysgu ac maent yn cael codiad cyflog wrth gyrraedd cerrig milltir sy’n gysylltiedig â’u datblygiad.

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Tata Steel ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —