Prentisiaid yn carlamu ymlaen mewn cartref ymddeol i geffylau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Happy Horse Retirement Home owner Nicky Van Dijk with staff members Jade Hanley and Marc Pugh.

Perchennog yr Happy Horse Retirement Home, Nicky Van Dijk, gyda Jade Hanley a Marc Pugh sy’n aelodau o’r staff.

Mae perchnogion y cartref ymddeol preifat cyntaf i geffylau ym Mhrydain yn credu’n gryf mewn datblygu eu staff trwy raglenni prentisiaethau.

Agorwyd yr Happy Horse Retirement Home gan Nicky a Ray Van Dijk yng Nghrai, ger Aberhonddu, yn 1989 ac erbyn hyn mae wyth o staff yn gofalu am 50 o geffylau.

Mae’r cwmni wedi helpu i hyfforddi naw o brentisiaid yn y pum mlynedd diwethaf a’r rhan fwyaf ohonynt wedi symud ymlaen i yrfaoedd yn y diwydiant ceffylau. Mae un o’r cyn-brentisiaid yn cynrychioli Prydain yng nghamp gyrru ceffylau mewn harnes.

Yn awr, mae’r Happy Horse Retirement Home wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Nid yw’r Happy Horse Retirement Home yn ddieithr i Wobrau Prentisiaethau Cymru gan fod y rheolwr cynorthwyol, Marc Pugh, wedi ennill Gwobr Cyflawnwr Eithriadol Twf Swyddi Cymru y llynedd. Mae ei lwyddiant ef wedi ysbrydoli eraill i ddilyn gyrfa yn y diwydiant ceffylau.

Mae’r cwmni’n cynnig amryw o fathau o hyfforddiant i’w staff, o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaeth Uwch, ac fe ddatblygir hyfforddiant personol i helpu pobl i gyrraedd eu targedau unigol. Coleg Cambria sy’n cyflenwi’r prentisiaethau.

Dywedodd Nicky Van Dijk: “Mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n hanfodol i’n busnes, mae’n diwallu fy anghenion staffio arbenigol i fel perchennog yr iard, ac mae’n apelio at ein myfyrwyr oherwydd y llwybrau gyrfa y gallwn eu hagor iddyn nhw. Ein prentisiaid eithriadol yw’r allwedd i’n llwyddiant.”

Dywedodd Katy Davies, asesydd Coleg Cambria ar gyrsiau ceffylau: “Mae gweithwyr medrus yn brin iawn yn y diwydiant ceffylau, yn arbennig mewn ardaloedd anghysbell o Gymru. Mae Nicky’n galluogi pobl ifanc i ganfod swydd addas, ennill cymwysterau gwerthfawr a pharatoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch yr Happy Horse Retirement Home ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —