Prentisiaid yn ychwanegu gwerth a syniadau at fusnes Delloitte

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ross Flanigan, managing director of Deloitte’s Shared Service Organisation at Cardiff Delivery Centre, with apprentices.

Ross Flanigan, rheolwr gyfarwyddwr Sefydliad Rhannu Gwasanaethau Deloitte yn y Cardiff Delivery Centre, gyda phrentisiaid.

Mae rhaglen brentisiaethau Deloitte wedi arwain at bolisi o ymgysylltu â phobl ifanc leol o wahanol gefndiroedd nad ydynt yn arfer cael eu recriwtio.

Swyddfa’r cwmni gwasanaethau proffesiynol yng Nghaerdydd yw’r fwyaf y tu allan i Lundain. Mae’n cyflogi dros 730 o bobl ac mae’n gartref i’r Cardiff Delivery Centre. Lansiodd y cwmni ei raglen brentisiaethau yn 2015 ac mae wedi recriwtio 41 o brentisiaid sy’n gweithio mewn gwahanol rannau o’r busnes.

O ganlyniad i lwyddiant y cwmni, mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd Deloitte yn cystadlu i fod yn Facro-gyflogwr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celftic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Dywedodd Uwch Reolwr Deloitte, Andrew Bevan: “Roedden ni’n teimlo y gallai prentisiaid gynnig rhywbeth gwahanol gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn dod atom yn syth o addysg lawn-amser heb i brofiadau o fyd gwaith eu llesteirio.

“Yn aml, mae pobl ifanc yn gallu edrych ar sefyllfaoedd â llygaid ffres, gan ychwanegu gwerth a syniadau er mwyn gwella ansawdd, gwella’r gwasanaeth a gwella profiad cleientiaid.”

Mae Deloitte yn gweld pa mor fuddiol yw prentisiaethau i’r cwmni a’u bod yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu gyrfa ac felly maent yn cynnig cymhwyster Diploma Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes (Cymru) ac yn cydweithio â’r darparwr hyfforddiant Coleg Caerdydd a’r Fro.

Mae’r rhaglen yn rhan o strategaeth y cwmni ‘One Million Futures’ sy’n ceisio hybu symudedd cymdeithasol. Gosodwyd Deloitte yn bumed ym Mynegai Cyflogwyr Symudedd Cymdeithasol y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Andrew Whitcombe o Goleg Hyfforddi Caerdydd a’r Fro: “Mae’r rhaglen wedi’i chanmol yn fawr gan nifer o randdeiliaid oherwydd ei hagwedd ddyfeisgar a blaengar.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Deloitte ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —