Mae gwrando ar lais cyflogwyr yn hanfodol ar gyfer dyfodol cymwysterau yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Dean and Leanne delivering the workshop

Dean Seabrook a Leanne Hallett, Cymwysterau Cymru.

Beth sy’n atal rhai cyflogwyr rhag helpu i siapio addysg gweithlu Cymru yn y dyfodol? Cynhaliodd Leanne Hallett a Dean Seabrook o Cymwysterau Cymru weithdy arbennig i geisio cael yr atebion.

Mae gwrando ar farn a syniadau cyflogwyr yng Nghymru yn rhan bwysig o sicrhau bod ein system gymwysterau yn cynnig addysg sy’n cefnogi economi gadarn ac iach.

Dyna pam y cynhaliodd yr Uwch Reolwyr Cymwysterau Leanne Hallett a Dean Seabrook weithdy Cymwysterau Cymru i drafod dulliau effeithiol o ymgysylltu cyflogwyr â’r system gymwysterau yng nghynhadledd ddiweddar Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Amlinellodd y sesiwn, a fynychwyd gan nifer fawr, y rhan hanfodol mae lleisiau cyflogwyr yn ei chwarae wrth siapio’r system gymwysterau ac ymroddiad Cymwysterau Cymru i gasglu eu safbwyntiau.

Dywedodd Leanne: “Mae darparwyr dysgu a chyrff dyfarnu wedi sôn wrthyn ni am y gwerth mae cyflogwyr yn ei gynnig wrth ddatblygu cymwysterau a llwybrau. Roedden nhw’n pwysleisio bod eu cyfranogiad yn hanfodol wrth sicrhau bod cymwysterau’n addas i’r diben.”

Roedd y sesiwn hefyd yn edrych ar y prif resymau pam nad yw cyflogwyr bob amser yn gallu ymgysylltu mor llawn ag y bydden nhw’n hoffi â’r system gymwysterau.

Dywedodd Dean: “Awgrymodd y rhai a fynychodd mai ffactor sylweddol sy’n rhwystro cyflogwyr yw dod o hyd i’r amser a’r capasiti i gyfrannu at drafodaethau, a’r anhawster o gydbwyso hyn ochr yn ochr â llwythi gwaith, yn enwedig ar gyfer busnesau bach. Dywedodd y cyfranwyr wrthyn ni y byddai cefnogi dealltwriaeth cyflogwyr o’r system gymwysterau ymhellach yn ddefnyddiol, gan nad yw rhai cyflogwyr yn gwybod yr effeithiau y gallai eu cyfraniadau eu cael.”

Ychwanegodd Leanne: “Mae angen i fusnesau bach weld enillion uniongyrchol ar eu buddsoddiad o gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, oherwydd heb gymhellion clir, dydy ymgysylltu ddim yn flaenoriaeth iddyn nhw.”

Esboniodd Leanne a Dean bedair ffordd y mae Cymwysterau Cymru yn eu defnyddio ar hyn o bryd i annog cyflogwyr i ymgysylltu â’r system gymwysterau.

  • Dweud eich Dweud – ymgysylltu â phlatfform ar-lein y sefydliad i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i roi adborth.
  • Grwpiau Cymwysterau Sector – annog cyflogwyr i chwarae rhan weithredol yn y grwpiau hyn.
  • Cymwysterau yng Nghymru – defnyddio’r platfform hwn i lywio trafodaethau gyda darparwyr dysgu lleol.
  • Cylchlythyr Cymwysterau Cymru – annog cyflogwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr misol (gall cyflogwyr gofrestru i dderbyn y cylchlythyr drwy hafan Cymwysterau Cymru).

Ychwanegodd Dean: “Fe wnaethon ni gloi’r sesiwn yn y gynhadledd trwy drafod ffyrdd o annog cyfraniad gan gyflogwyr a’i gwneud hi’n haws iddyn nhw gyfrannu.”

Awgrymodd rhanddeiliaid y byddai cefnogi cyflogwyr i ddeall gwahanol agweddau ar y system gymwysterau yn annog gwell cyfranogiad, yn enwedig:

    y camau arferol wrth ddatblygu a chyflwyno cymwysterau newydd

    ystod a dibenion cymwysterau galwedigaethol ar gyfer dysgwyr seiliedig ar waith yng Nghymru

    sut mae cymwysterau’n cyd-fynd â setiau cydnabyddedig o safonau diwydiant neu swyddi galwedigaethol diffiniedig

    drwy roi enghreifftiau o sut mae llais y cyflogwr wedi siapio meysydd o’r system gymwysterau bresennol

Gall cyflogwyr sy’n awyddus i ddysgu mwy anfon e-bost at dean.seabrook@cymwysterau.cymru neu leanne.hallett@cymwysterau.cymru

Cymwysterau Cymru

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —