Sêr Cymru ym maes dysgu seiliedig ar waith yn disgleirio mewn seremoni wobrwyo

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Welsh

Roedd sêr o blith dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu Cymru yn disgleirio pan gyhoeddwyd enwau enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018 neithiwr (Tachwedd 9).

Cafwyd cyfle i ddathlu llwyddiant ysbrydoledig unigolion ac agwedd ddeinamig cyflogwyr a darparwyr dysgu at hyfforddiant a datblygiad sgiliau mewn seremoni wobrwyo fawreddog a ddaeth â 30 o ymgeiswyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol ynghyd i Westy Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.

Mae’r gwobrau’n arddangos llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Enillwyd gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, sy’n cyflogi 85 o brentisiaid. Mae’r cyngor yn cydweithio â phartneriaid yn cynnwys Coleg Pen-y-bont a Choleg y Cymoedd i ddarparu dros 20 o Brentisiaethau mewn gyrfaoedd mor amrywiol â pheirianneg a gofal cymdeithasol.

Hedfanodd Magellan Aerospace UK Ltd o Wrecsam i ffwrdd â gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn. Mae’r cwmni, sy’n cydweithio’n agos â Choleg Cambria, wedi buddsoddi’n drwm mewn Prentisiaethau ac wedi datblygu gweithlu deinamig sy’n gallu hawlio’u lle ar flaen y gad mewn diwydiant byd-eang cystadleuol. Mae’r gweithlu o 400 yn cynnwys 74 o brentisiaid.

Aeth gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn i gwmni cigyddion arlwyo a phroseswyr cig Celtica Foods o Cross Hands, Llanelli, sydd wedi sefydlu academi hyfforddi mewn partneriaeth â Chwmni Hyfforddiant Cambrian i feithrin ei weithwyr medrus ei hunan. Mae gweithlu’r cwmni o 75 yn cynnwys 17 o brentisiaid.

Cyflogwr Bach y Flwyddyn oedd y cwmni technoleg gwybodaeth Pisys.net o Abertawe, sy’n defnyddio Prentisiaethau fel rhan hanfodol o’i raglen recriwtio. Mae’r cwmni, sy’n cynnig cymorth a gwasanaethau TG fforddiadwy i fusnesau ledled Prydain, wedi recriwtio 18 o brentisiaid dros y degawd diwethaf ac mae’n cydweithio ag ITeC Abertawe.

Cafodd ACT Limited o Gaerdydd lwyddiant dwbl wrth i’w weithwyr Carly Murray a Kirsty Keane gasglu gwobrau Asesydd a Thiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith, yn y drefn honno.

Asesydd Sicrhau Ansawdd Mewnol yw Carly, 35 oed. Mae wrth ei bodd yn cyflenwi cymwysterau seiliedig ar waith sy’n creu argraff ar ei dysgwyr ac mae wedi sicrhau cyfradd lwyddiant o 100% ddwy waith ers 2013. Mae Kirsty, 26 oed, wedi cefnogi 91 o ddysgwyr trwy Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn gofal gyda phob un yn symud ymlaen i swydd neu hyfforddiant pellach ac mae’n trefnu profiadau unigryw ar gyfer ei dysgwyr.

Aeth gwobrau’r prentisiaid i bobl o Gymru benbaladr. Aeth y wobr Prentis Uwch y Flwyddyn i Daren Chesworth, 30 oed, peiriannydd cymorth gyda Transcontinental AC UK Ltd yn Wrecsam. Dangosodd Daren bod Prentisiaethau’n gallu newid bywydau gan iddo ailhyfforddi gyda Choleg Cambria ar ôl i’w swydd fel plymer ddod i ben a’i nod yw bod yn Beiriannydd Siartredig.

Sally Hughes, 19 oed, o Bort Talbot enillodd wobr Prentis y Flwyddyn ac mae hi’n datblygu gyrfa gyda Tata Steel. Gyda Choleg Gŵyr, Abertawe y mae hi’n dysgu a’i gobaith yw ysbrydoli merched ifanc eraill i ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth trwy gofleidio’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddi.

Cogydd 22 oed o’r enw Thomas Martin, o westy Holm House, Penarth, yw Prentis Sylfaen y Flwyddyn. Aeth ei gariad at goginio ag ef i weithio yn rhai o fwytai gorau Llundain. Ac yntau’n dysgu gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, ei uchelgais fawr yw agor bwyty yng Nghaerdydd i roi lle teilwng i gynhwysion gorau Cymru.

Aeth y ddwy wobr arall i ddysgwyr ifanc sydd wedi elwa ar raglenni Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru.

Enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu) oedd James Carter, 18 oed, o Gasnewydd, sy’n cael trefn ar ei fywyd eto ar ôl cyfnod gwael pryd y bu’n ddigartref am saith wythnos, camddefnyddio sylweddau a threulio diwrnod yn y carchar. Daeth y trobwynt i James pan gyflwynodd Gyrfa Cymru ef i raglenni hyfforddi trwy Itec Skills and Employment.

Dangosodd enillydd y wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1), Stella Vasiliou, 19 oed, o’r Barri, nad oes raid llwyddo mewn arholiadau ysgol er mwyn serennu yn eich gyrfa. Gyda chymorth ACT Limited, newidiodd gyfeiriad ei gyrfa ac erbyn hyn mae’n brentis saer gyda Chyngor Bro Mogannwg.

Llongyfarchwyd pawb oedd yn y rownd derfynol a’r enillwyr yn arbennig gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, am osod safon aur ar gyfer Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau.

“Mae yma unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle a darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw,” meddai. “Mae angen llongyfarch pob un ohonyn nhw am eu hymrwymiad i’r Rhaglen Brentisiaethau a Hyfforddeiaethau yng Nghymru.

“Mae Prentisiaethau’n faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a, gyda chymorth o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), mae wedi ymrwymo i greu o leiaf 100,000 o Brentisiaethau pob-oed o safon uchel yn ystod tymor presennol y Cynulliad.

“Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion busnesau Cymru, datblygu llwybrau sgiliau a chynyddu sgiliau lefel uwch er budd Cymru gyfan. Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, mae’n rhaid i ni gydweithio i sicrhau bod gan Gymru weithlu sydd gyda’r gorau yn y byd.”

Dywedodd Sarah John, cadeirydd NTfW, mai’r gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i bawb sy’n ymwneud â chyflenwi’r rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau llwyddiannus hyn.

“Gallwn ymfalchïo fod gan Gymru Raglen Brentisiaethau eithriadol o lwyddiannus – yr orau yn y Deyrnas Unedig yn ein barn ni,” meddai. “Prentisiaethau yw safon aur hyfforddiant galwedigaethol oherwydd maent yn creu gweithlu mwy ymatebol a brwd ac yn cyflenwi’r sgiliau allweddol a’r profiad y mae ar fusnesau eu hangen – yn awr ac yn y dyfodol.”

More News Articles

  —