Mae lledaeniad y coronafeirws wedi effeithio’n fawr ar y sector dysgu seiliedig ar waith (DSW) gyda llawer o’n dysgwyr ar ffyrlo neu’n ddi-waith am fod busnesau wedi cau. Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau mewn cymdeithas gydag ymchwil yn dangos bod y feirws yn effeithio’n waeth ar bobl sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig neu’n dod o gefndiroedd difreintiedig. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i drafod gyda’r sector gan gynnig canllawiau ar gyfer dychwelyd yn ddiogel i’n gweithleoedd. Rydym hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd cofleidio ffyrdd digidol o weithio er mwyn cadw cysylltiad â’n cydweithwyr a’n dysgwyr.
Bu’n gyfnod prysur i Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (SEDL) NTfW. Mae wedi cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi ar-lein i ddarparwyr DSW ac wedi ymuno â sawl fforwm a grŵp cynghori ar-lein er mwyn sicrhau bod dysgu seiliedig ar waith yn dal i dalu sylw i faterion sy’n poeni dysgwyr o gefndiroedd amrywiol y mae coronafirws a’r cloi wedi amharu arnynt. Yn fwyaf nodedig, gwahoddwyd y SEDL i ymuno ag Is-grŵp Cymdeithasol-Economaidd BAME Prif Weinidog Cymru ar Covid-19 a fu’n ystyried pam y bu i’r feirws effeithio’n waeth ar bobl o gefndiroedd BAME ac a chwaraeodd ran allweddol wrth baratoi argymhellion adroddiad yr Is-grŵp a oedd yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau ym meysydd iechyd, tai, addysg a chyflogaeth.
Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae’r SEDL yn cydweithio â phrif ddarparwyr DSW i gynhyrchu ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn DSW. Mae wedi cynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid allanol i sicrhau bod gwaith yn y maes yn cael ei wneud gydag ymroddiad ac mewn ffordd gydgysylltiedig.
Gallwn ni, fel sector, ymfalchïo yn y ffordd yr ydym wedi parhau i gefnogi ein dysgwyr i gwblhau eu fframweithiau yn ystod pandemig y coronafeirws. Er bod amseroedd heriol o’n blaen ym maes dysgu seiliedig ar waith, mae ein Strategaeth ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn DSW yn gyfle i symud ymlaen yn hyderus, gyda’n rhanddeiliaid allanol, i sicrhau model mwy cynhwysol ar gyfer prentisiaethau.