Sioned yn Llysgennad sy’n frwd o blaid prentisiaethau
Mae Sioned Williams yn Brentis Uwch sy’n annog dysgwyr yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd trwy gychwyn ar brentisiaeth.
Sioned, 41, o Drawsfynydd, yw dirprwy reolwr Meithrinfa Twt Lol, Pentrefoelas ger Betws-y-coed, lle bu’n gweithio ers saith mlynedd.
Mae’n gwneud Prentisiaeth Uwch, Lefel 5 trwy gyfrwng y Gymraeg mewn Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, trwy City & Guilds, yn cael ei chyflenwi ar y cyd gan y Mudiad Meithrin a’r Urdd.
Gan ei bod mor frwd dros brentisiaethau a’r iaith Gymraeg, mae Sioned wedi’i phenodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.
“Beth bynnag yw eich oed a’ch amgylchiadau, gallwch wneud beth bynnag y mynnwch trwy ddilyn prentisiaeth, os ydych yn ddigon penderfynol,” meddai Sioned.
“Mae prentisiaeth yn ffordd o ddatblygu’ch gyrfa yn y gweithle a chael eich talu wrth wneud hynny. Mae Lowri Jones yn gyflogwr ardderchog sydd wedi fy annog i wneud Prentisiaeth Uwch gan ei bod yn gwybod y bydd yn lles i’r feithrinfa.
“Mae’n gallu bod yn anodd gweithio llawn amser, bod yn fam a gwneud Prentisiaeth Uwch ond dwi’n dod i ben â hi ac mae fy nhiwtoriaid yn dda iawn. Mae’n bwysig achos mae cymaint o bethau y mae angen i mi eu gwybod wrth weithio mewn meithrinfa.”
Gan mai Cymraeg yw ei hiaith gyntaf, mae’n awyddus i fanteisio ar bob cyfle i’w hyrwyddo, yn enwedig yn y gweithle. “Dwi’n awyddus i warchod yr iaith Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru – maen nhw’n bwysig i mi,” meddai Sioned.
“Os na ddefnyddiwn ni’r iaith, mae arna i ofn y bydd yn marw ymhen amser. Os gwnawn ni barhau i hyrwyddo prentisiaethau a chyrsiau Cymraeg a dwyieithog, mae’n bosib iawn y gwnawn ni gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
Mae’r feithrinfa, sy’n gofalu am 56 o blant, yn hysbysebu am brentis arall ar hyn o bryd.
Roedd Lowri Jones, perchennog Meithrinfa Twt Lol, yn llawn canmoliaeth i Sioned am weithio’n galed a bod yn awyddus i wneud pethau’n iawn. “Gan ei bod hi’n arweinydd yn y feithrinfa, mae’r brentisiaeth wedi dod yn eithaf naturiol iddi,” meddai.
“Mae’n bwysig iawn ei bod yn gwneud ei phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd ein hamgylchiadau. O’r 56 o blant sydd ar y llyfrau, dim ond dau sy’n dod o deuluoedd di-Gymraeg, a’r ddau deulu’n awyddus i’w plant ddysgu Cymraeg.”
Dywedodd Esther Mary Jones, tiwtor ac asesydd Sioned o’r Mudiad Meithrin: “Wrth wneud Prentisiaeth Uwch, Lefel 4 trwy gyfrwng y Gymraeg, mae Sioned wedi cyfrannu’n frwd at y gweithdai hyfforddi ac wedi dangos gwybodaeth a dealltwriaeth eang iawn yn holl dasgau’r cwrs.
“A hithau’n cychwyn ar Brentisiaeth Uwch, Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, dwi’n edrych ymlaen at weld Sioned yn dangos ei sgiliau wrth barhau ar ei thaith ddysgu.”
Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”
“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”
Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.
“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.
More News Articles
« Llysgennad Prentisiaethau dwyieithog yn saernïo gyrfa mewn gwaith coed — Dydi hi byth yn rhy hwyr i chi newid eich gyrfa, meddai Samantha »