Sophie’n newid cyfeiriad ar ôl profiad o werth maethu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Sophie Williams, wedi’i hysbrydoli gan y gwasanaeth maethu.

Ar ôl graddio, bwriad Sophie Williams oedd mynd yn athrawes. Yna, gwelodd y lles y mae maethu’n gallu ei wneud i fywydau plant a’u rhieni biolegol, sy’n cael cyfle i roi trefn ar eu bywydau.

Cafodd Sophie brofiad o werth maethu pan ddechreuodd ei mam, Lesley, gymryd plant maeth a gwnaeth hynny iddi benderfynu ceisio bod yn weithiwr cymdeithasol.

Roedd Sophie, 24, sy’n byw yn Hirwaun, wedi graddio mewn Ffrangeg a Sbaeneg o Brifysgol Abertawe a’i bwriad oedd anelu at Dystysgrif Addysg i Raddedigion.

Fodd bynnag, newidiodd ei meddwl a mynd yn brentis yn adran Faethu Cyngor Rhondda Cynon Taf ym mis Medi 2019 ac, yn ddiweddar, cafodd ei dyrchafu’n swyddog recriwtio rhanbarthol.

Yn awr, mae Sophie wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Doniau’r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Yn ystod ei chyfnod gyda’r cyngor, bu Sophie’n trafod gyda phobl sy’n dymuno bod yn rhieni maeth ac yn ymweld â nhw. Bu hefyd yn paratoi llyfrau taith bywyd ar gyfer plant maeth, i’w helpu i ddeall pam y maen nhw mewn gofal. Bu ar secondiad hefyd, yn gofalu am blant bregus a phlant heriol yn y gwasanaethau preswyl.

Ar ôl cwblhau Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes, a drefnwyd gan Goleg y Cymoedd, gobaith Sophie yw mynd yn ôl i’r brifysgol yn y dyfodol i wneud Gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol.

“Rwy wrth fy modd yn gweithio ym maes maethu,” meddai. “Ar ôl gweld drosof fy hunan faint o les y gall cariad a gofal ei wneud i blant maeth, roeddwn i’n awyddus i weithio yn y gwasanaeth a cheisio annog rhagor o bobl i ystyried maethu.

“Mae fy mhrentisiaeth wedi rhoi cyfle i mi gael swydd lawn amser, ennill cymwysterau a gweld y gwahanol agweddau ar waith cymdeithasol.”

Dywedodd Alastair Cope, rheolwr datblygu rhanbarthol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fod Sophie’n “ysbrydoliaeth” ac roedd yn llawn canmoliaeth i’r ffordd y mae’n cefnogi pobl ifanc sydd mewn gofal.

“Mae wedi cyflawni llawer iawn mewn amser byr,” meddai. “Heb gefnogaeth Sophie a’i pharodrwydd i daclo unrhyw dasg, gallem fod wedi cael trafferth cynnal rhai o’n gwasanaethau yn ystod y pandemig.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —