Hanner dwsin da’n cynrychioli darparwyr hyfforddiant Cymru yn WorldSkills UK
English | Cymraeg
Dewiswyd chwe dysgwr a hyfforddir gan ddarparwyr hyfforddiant annibynnol yng Nghymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth WorldSkills UK eleni.
Yn dilyn sawl rownd ragbrofol, bydd 406 o ymgeiswyr yn brwydro yn y rowndiau terfynol yn nes ymlaen eleni i fod yn bencampwyr y Deyrnas Unedig mewn dwsinau o feysydd gwaith. Cawsant eu dewis o blith 1,800 o bobl ifanc a fu’n cystadlu yn y rowndiau rhagbrofol ledled y DU.
Bydd 122 o ymgeiswyr yn cynrychioli Cymru yn y rownd derfynol, yn cynnwys Maddison Groves a Mike Francis o ACT Training yn rownd derfynol y technegwyr cyfrifyddu.
Meddai Becky Morris, Pennaeth Gwelliant Parhaus yn ACT: “Rydyn ni’n eithriadol o falch o Maddison a Mike am gyrraedd rowndiau terfynol WorldSkills UK. Mae hyn yn dipyn o gamp ac mae’n dangos eu bod nhw wedi gweithio’n galed iawn ac wedi cael cefnogaeth dda gan eu cydweithwyr. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw, ac edrychwn ymlaen at eu hannog a’u cefnogi yng Nghaerdydd.”
Mae Neachia Wilson, Vanesa Grunzova a Rory-Lee Sexton o Itec Skills and Employment yn rownd derfynol Sgiliau Sylfaen: Menter, a Melissa Summers yn rownd derfynol Sgiliau Sylfaen: Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
“Mae’n deimlad mor gyffrous bod dysgwyr Itec wedi cyrraedd rownd derfynol Sgiliau Sylfaen: Menter,” meddai Matthew Morgan, tiwtor ieuenctid yn Itec Training Solutions, a fydd yn mynd gyda’r dysgwyr i’r cystadlaethau.
“Maen nhw wedi dod i’r brig mewn dwy rownd heriol yn barod, gan gymryd cam mawr y tu hwnt i’w man cysurus. Roedd yn hynod braf gwylio’u hyder yn cynyddu drwy gydol y gystadleuaeth ac rwy’n falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.”
Cafodd y 112 o bobl ifanc dalentog a fydd yn chwifio’r faner dros Gymru yn y rowndiau terfynol eu llongyfarch gan gyfarwyddwr strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), Lisa Mytton.
“Mae’n wych gweld cynrychiolaeth mor gryf gan golegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith. Mae eu partneriaeth â chyflogwyr yn hollbwysig er mwyn datblygu sgiliau ar gyfer y byd go iawn,” meddai.
“Trwy gysylltiadau cryf ein darparwyr â chyflogwyr, mae dysgwyr yn cael profiad gwerthfawr o fyd gwaith ochr yn ochr â hyfforddiant technegol, gan eu helpu i feithrin y sgiliau a’r hyder angenrheidiol i lwyddo mewn diwydiant.
“Roedd 30 o bobl ifanc sydd dan hyfforddiant gan aelodau NTFW, sef y nifer uchaf erioed, yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni ac mae chwech ohonynt wedi ennill eu lle yn rowndiau terfynol y DU. Mae hynny’n galonogol iawn. Llongyfarchiadau iddyn nhw.
“Mae eu llwyddiant yn arwydd o ragoriaeth ein rhwydwaith darparwyr hyfforddiant yma yng Nghymru a gobeithio y bydd hyn yn annog hyd yn oed ragor o’n dysgwyr talentog i gystadlu a meincnodi eu sgiliau yng nghystadlaethau’r flwyddyn nesaf.”
Roedd Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect gydag Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, yn llawn anogaeth i’r dysgwyr a’u darparwyr hyfforddiant.
“Mae’n wych gweld cynifer o ddysgwyr o’n rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith yn ennill lle yn rowndiau terfynol WorldSkills UK,” meddai.
“Mae ein perthynas â’r darparwyr hyfforddiant hyn yn allweddol ac mae’r ffaith bod eu cystadleuwyr wedi cyrraedd y rowndiau terfynol yn arwydd o safon eithriadol hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru.
“Drwy wthio dysgwyr allan o’u man cysurus, mae’r cystadlaethau hyn yn codi safonau ac yn rhoi’r union beth y mae ar gyflogwyr ei angen: sef talent o’r radd flaenaf a sgiliau technegol gwych.”
Yn ogystal ag ennill medalau aur, arian ac efydd mewn 44 o gystadlaethau, bydd cyfle i bencampwyr y rowndiau terfynol gynrychioli’r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth sgiliau fyd-eang 2028 yn Japan.
Cynhelir rowndiau terfynol y DU mewn colegau a phrifysgolion ledled de Cymru ar 18–20 Tachwedd. Dyma fydd y tro olaf y cynhelir cystadleuaeth WorldSkills UK yn y rhanbarth.
More News Articles
« Cyflawnai ACT ac ALS achrediad platinwm dwbl gydag Investors in People —


