Rhagoriaeth Sgiliau’r DU yn Dod i Gymru am y Tro Cyntaf

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

WorldSkills UK competitor

Ym mis Tachwedd eleni, bydd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2025 yn cael eu cynnal yng Nghymru am y tro cyntaf erioed. Bydd prif gystadleuaeth sgiliau’r DU yn dod i leoliadau Cymreig; carreg filltir fawr a fydd arddangos y wlad ar lefel genedlaethol.

Gyda 417 o gystadleuwyr yn cymryd rhan o bob cwr o’r DU a dros 47 o rowndiau terfynol wedi’u cynllunio, nid cystadleuaeth yn unig yw’r digwyddiad hwn ond dathliad cenedlaethol o hyfforddiant galwedigaethol a thechnegol o’r radd flaenaf.

Mae nifer o’r cynrychiolwyr o Gymru hefyd; mae 120 o bobl ifanc o bob cwr o’r wlad wedi ennill eu lle yn dilyn perfformiadau rhagorol yn y rowndiau rhagbrofol. Mae hyn yn golygu y bydd o leiaf 29% o’r cystadleuwyr cenedlaethol yn dod o Gymru; cynnydd sylweddol o gymharu â 25% y llynedd.

Cystadleuwyr yn cynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK:
WorldSkillsUK Welsh Finalists

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei phartneriaeth i gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU gyda Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a WorldSkills UK ym mis Medi diwethaf, yn dilyn rowndiau terfynol llwyddiannus WorldSkills yn Lyon. Mae’r bartneriaeth hon wedi gosod y sylfeini i’r Rowndiau Terfynol eleni gael eu cynnal ar draws 5 lleoliad yng Nghymru, rhwng 26 a 28 Tachwedd.

Bydd cystadleuwyr yn arddangos eu galluoedd mewn ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys Celf Gemau Digidol 3D, Cynnal a Chadw Awyrennau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chelfyddydau Coginio. Mae modd i’r rhai sy’n creu argraff dan bwysau gael eu dewis i gynrychioli’r DU ar y llwyfan rhyngwladol yn y “Gemau Olympaidd y Sgiliau” yn Japan yn 2028.

Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant:
“Mae’r cystadlaethau hyn yn dangos gwerth ac arwyddocâd prentisiaethau ac maen nhw’n amhrisiadwy wrth sicrhau dyfodol ein heconomi.

“Rwy’n falch bod Cymru’n cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK 2025. Mae ein gwlad yn un brydferth, ac rwy’n gobeithio y bydd ein ymwelwyr yn cymryd amser i’w harchwilio.

“Hoffwn ddymunopob lwc i’r garfan newydd o gystadleuwyr – rwy’n gwybod y byddwn yn falch ohonoch a’ch ymroddiad.”

Yn rhan annatod o galendr addysg a hyfforddiant ôl-16, mae Cystadlaethau WorldSkills UK yn denu dros 6,000 o ddarpar gystadleuwyr o bob rhan o Loegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon bob blwyddyn. Mae’r rhaglenni hyfforddi sy’n seiliedig ar gystadlu yn rhoi cyfleoedd i sefydliadau addysg a chyflogwyr ddatblygu a meincnodi galluoedd eu myfyrwyr a’u prentisiaid yn erbyn safonau rhyngwladol.

Mae Mark Wright, prentis yn International Crusher Solutions Ltd, yn cystadlu yn y gystadleuaeth Gwneuthuro Metel. Dywedodd:
“Dechreuais mewn cystadlaethau Adeiladu Gwaith Metel y llynedd ac enillais fedal aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru gyda’r sgôr uchaf yn y rhanbarth, ac un arian yn WorldSkills UK.

“Fe wnes i fwynhau cymaint nes i mi benderfynu mynd am y cystadlaethau rhagbrofol yn y DU eleni mewn Gwneuthuro Metel hefyd, ac rwyf wrth fy modd yn mynd i Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK. Mae’n brofiad gwych, ac rwy’n edrych ymlaen i ddechrau a mwynhau’r profiad.”

Mae Logan Sweet, prentis yn Aston Martin, yn cystadlu yn y gystadleuaeth Ail-orffen Modur. Dywedodd:
“Ers dechrau fy mhrentisiaeth, rwyf wastad wedi bod eisiau profi fy hun a chystadlu.

“Gyda chefnogaeth fy narparwr hyfforddiant, Coleg Caerdydd a’r Fro, gwthiais fy hun o ennill medal efydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru i gyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK erbyn hyn.

“Mae’n deimlad anhygoel – rwy’n falch iawn o ba mor bell dw i wedi dod ac mae’r holl waith caled sydd wedi talu ar ei ganfed.”

Parhaodd Elara Jones, sy’n cystadlu yn y gystadleuaeth Ymarferydd Therapi Harddwch, gan ddweud:
“Mae ennill medal aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a chael fy newis ar gyfer Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU yn dangos bod yr holl waith caled a’r ymdrech wedi talu ar ei ganfed.

“Rydw i mor falch, mae’n teimlo bod popeth rydw i wedi’i wneud wedi bod yn arwain at y foment hon, ac mae’n golygu llawer i weld popeth yn gorffen ar bwynt mor gyffrous.”

Am fwy o wybodaeth am WorldSkills UK a sut i ddechrau ar eich taith fel cystadleuydd, tiwtor neu gyflogwr yng Nghymru, ewch i:
inspiringskills.gov.wales.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —