30 o sêr yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, allan o gannoedd o ymgeiswyr.

Mae ceisiadau am y gwobrau, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), wedi llifo i mewn o bob rhan o’r wlad gan wneud dewis rhestr fer yn dasg anodd iawn i’r beirniaid.

Yn awr, bydd rhaid i’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer mewn 11 dosbarth aros tan y seremoni derfynol yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref i gael gwybod pwy sydd wedi ennill y gwobrau, a noddir gan Pearson PLC a’i cefnogi gan Media Wales.

Mae’r gwobrau’n dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Llongyfarchwyd pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James. Dywedodd fod safon yr ymgeiswyr yn uchel iawn eleni a diolchodd i bawb am ymgeisio.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal,” meddai. “Rwy’n croesawu’r ffaith fod mwy a mwy o gyflogwyr yn gweld gwerth ein rhaglen brentisiaethau lwyddiannus a’r angen i godi sgiliau i lefel uwch er mwyn mynd i’r afael â bylchau sgiliau ac ymateb i newidiadau mewn diwydiant.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n llwyfan delfrydol i ddathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru sydd wedi rhagori ar Raglenni Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru ac sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad ein cynlluniau ehangach ym meysydd cyflogadwyedd a phrentisiaethau.”

Dywedodd cadeirydd NTfW, Sarah John: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i arddangos ein rhaglenni sgiliau llwyddiannus ni yng Nghymru bob blwyddyn. Fel cenedl, mae gennym le i ymfalchïo yn llwyddiant ein dysgwyr, ein cyflogwyr a’n hymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dyma’r rhai sydd yn y rownd derfynol: Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Billy Brown, y Barri – ei ddarparwr dysgu ef yw The People Business Wales Ltd; Catherine Grace Cox, Tregarth, Bangor a Jordan William Jones, Bangor, y ddau o gampws Llangefni, Grŵp Llandrillo Menai. Dysgwr y flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Emily Wintle, Llanharri, Pontyclun o ACT Training, Caerdydd; Joshua O’Leary, Tredegar a Kirsty Redmond, Merthyr Tudful, y ddau o PeoplePlus, Merthyr Tudful.

Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Joe Lewis, Port Talbot sy’n gweithio i Vale Europe Limited; Samuel Jones, Graig, Pontypridd sy’n gweithio i Wales and West Utilities; Sophie Hendy, Llandudno sy’n gweithio i Tommy’s Hair Company. Prentis y Flwyddyn: Adam Griffiths, Ynysybwl, Pontypridd sy’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Corey Jones, Wrecsam sy’n gweithio i Aldi, yr Wyddgrug a Stephen Pickles, Llanrhymni, Caerdydd sy’n gweithio i Renishaw PLC, Meisgyn.

Prentis Uwch y Flwyddyn: Megan Hession, Llanisien, Caerdydd sy’n gweithio i Montana Health Care, Caerffili; Peter Rushforth, Coed-llai, yr Wyddgrug sy’n gweithio i Swans Farm Shop, Treuddyn, ger yr Wyddgrug a Rebecca Crook, Sain Tathan sy’n gweithio i Feithrinfa Ddydd Little Inspirations, y Barri.

Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1 i 49 o weithwyr): Archway Court, Caerdydd a Happy Horse Retirement Home Ltd, Crai, Aberhonddu. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50 i 249): Celtica Foods, Cross Hands, Llanelli; Cyfle Building Skills Ltd, Rhydaman ac Electroimpact UK Ltd, Penarlâg. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 i 4,999): Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd; Y Swyddfa Eiddo Deallusol, Casnewydd a Redrow Homes, Ewloe, Sir y Fflint. Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5,000+): Deloitte LLP, Caerdydd a Tata Steel UK Limited, Port Talbot.

Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Emma Huggins, y Rhŵs sy’n gweithio i ACT Training, Caerdydd; Kelly Nancarrow, Trefddyn, Cwmbrân sy’n gweithio i Torfaen Training a Sue Jeffries, Rhymni, Caerdydd sy’n gweithio i Sgil Cymru. Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Matthew Owen o Aspiration Training Limited, Llaneirwg, Caerdydd a Ros Smith, Trehafod, Pontypridd sy’n gweithio i ACT Training, Caerdydd.

More News Articles

  —