Gyrfa Connor yn codi’n uchel diolch i brentisiaeth gyda BAAE
Mae gyrfa Connor Paskell wedi codi’n uchel ers iddo gychwyn prentisiaeth gyda British Airways Avionic Engineering (BAAE) yn Llantrisant.
Roedd Connor, 21, sy’n byw yn Llantrisant, yn awyddus i gychwyn gyrfa mewn peirianneg ond, am na ddaeth ar draws agoriad addas, dechreuodd weithio mewn meithrinfa plant bach.
Gan ei fod yn dal yn benderfynol o wireddu ei freuddwyd, aeth ar gwrs peirianneg llawn-amser yng Ngholeg y Cymoedd tra oedd yn gweithio rhan-amser yn y feithrinfa. Talodd ei ymroddiad ar ei ganfed iddo, gan iddo ennill cymhwyster Peirianneg Uwch BTEC â rhagoriaeth ac ennill gwobr Prentis Peirianneg y Flwyddyn yn y Coleg.
Ymunodd Connor â BAAE yn 2018 a disgwylir iddo gwblhau ei brentisiaeth fel peiriannydd awyrennau ym mis Awst. Ar ôl ennill nifer o gymwysterau, yn cynnwys Prentisiaeth mewn Peirianneg Drydanol, mae’n gobeithio symud ymlaen i wneud HNC ar ôl pandemig Covid-19.
Oherwydd ei lwyddiant, mae Connor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Doniau’r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.
Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Mae Connor yn helpu i brofi, archwilo ac atgyweirio gwahanol fathau o unedau ac offer a osodir ar awyrennau ac mae wrth ei fodd â phrosiectau fel un lle bu’n casglu darnau oedd yn dal i weithio o unedau y rhoddwyd y gorau i’w defnyddio – roedd y darnau a arbedwyd yn werth dros filiwn o bunnau.
Gall ddweud iddo weithio ar y pecyn bolltiau injan olaf erioed ar gyfer awyren British Airways 747 cyn iddynt roi’r gorau i ddefnyddio’r awyren honno y llynedd.
Mae Connor yn fentor i brentisiaid eraill ac mae’n edrych ymlaen at barhau â’i daith ddysgu pan fydd BAAE a British Airways Interiors Engineering yn symud i British Airways Maintenance, Caerdydd.
“Rwy’n mwynhau darganfod ffyrdd o arbed amser ac arian i’r cwmni ac rwy’n awyddus i ymdrechu i ddysgu pethau newydd ac adeiladu ar y sylfaen y mae fy mhrentisiaeth a BA wedi’i rhoi i mi,” meddai.
“Ar ôl dod dros fy swildod, rwy wedi gallu disgleirio a sôn am fy syniadau ar gyfer gwella effeithlonrwydd, arferion gweithio a’r diwylliant yn BAAE, yn ogystal â helpu’r cwmni i gyrraedd ei dargedau.”
Dywedodd Martine Roles, rheolwr adnoddau dynol gyda BAAE yn Llantrisant: “Mae Connor wedi dod yn rhan bwysig o’r busnes yn ystod ei brentisiaeth ac ef yw’r dewis cyntaf i weithio ar nifer o brosiectau. Mae’n anelu at berffeithrwydd ac yn ei gyrraedd.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.
“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”
More News Articles
« Sophie’n newid cyfeiriad ar ôl profiad o werth maethu — Gyrfa addawol ym myd peirianneg i un o brentisiaid Renishaw »