Llythrennedd digidol yn dod yn sgil hanfodol i gyflogwyr

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae llythrennedd digidol wedi ennill ei blwyf fel un o’r sgiliau pwysicaf y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Yn ddiweddar, mae Forbes wedi ei osod yn ail ar ei restr o briodoleddau proffesiynol sydd eu hangen i symud ymlaen yn llwyddiannus mewn gweithle modern. Mae llythrennedd digidol hefyd wedi cael ei ystyried i fod yn bwysicach na gradd i bobl sy’n chwilio am swydd.

Two young people sitting in front of a computer.

Efallai eich bod chi’n meddwl taw ymysg pobl hŷn y mae diffyg llythrennedd digidol yn codi, ond mae hyn ymhell o’r gwir. Er mai gweithwyr ‘Gen Z’ yw’r genhedlaeth gyntaf i gael eu ‘codi gan y rhyngrwyd’, mae ganddynt, yn aml, fwlch sgiliau TG oherwydd eu diffyg profiad o weithio gyda chyfrifiaduron – i gymharu â’u hyfedredd ar ddyfeisiau symudol a thabledi.

Mae ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, yn cyflwyno cymhwyster seiliedig ar waith newydd i sicrhau bod gan bob gweithiwr ddealltwriaeth sylfaenol o’r systemau y maent yn defnyddio yn eu gwaith bob dydd.

Mae’r cwrs Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes hefyd yn helpu sefydliadau i wneud y mwyaf o’r rhaglenni y maent wedi buddsoddi ynddynt ar gyfer eu staff. Gyda ffioedd trwydded uchel, mae’n bwysig bod y rhai sy’n defnyddio’r feddalwedd yn deall y dulliau a’r triciau nid yn unig i gwblhau eu gwaith yn effeithlon ond hefyd mewn ffordd effeithiol ar gyfer y busnes.

Dywedodd Lucy Wilkinson, Rheolwr Llwybr Gwasanaethau Digidol ACT:
“Mae Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes yn ymwneud â hybu hyder ac yn rhoi ffordd effeithlon i gyflogwyr sicrhau bod gan yr holl staff ddealltwriaeth sylfaenol o’r feddalwedd ddigidol y maent yn eu defnyddio.

Gall y cwrs hefyd roi hwb i effeithlonrwydd cwmni, gan ddysgu’r dulliau, y triciau a’r llwybrau byr yn y rhaglenni y maent yn debygol o’u defnyddio’n rheolaidd ond nid i’w potensial llawn.

“O safbwynt personol, mae’r cwrs yn darparu achrediad ac yn edrych yn wych ar CV.”

Ar Lefel Dau, mae’r cymhwyster yn archwilio pynciau fel rhannu digidol, llywio rhaglenni a ddefnyddir yn aml fel Teams, Canva a thaenlenni. Mae dysgwyr hefyd yn ennill dealltwriaeth sylfaenol o sut i ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau i baratoi dogfennau yn briodol yn ogystal â chreu cyflwyniadau (er nad oes angen cyflwyno i gwblhau’r cwrs.)

Mae modiwlau hefyd ar sicrwydd ac iechyd a diogelwch, yn ogystal ag unedau eraill mewn defnyddio taenlenni, e-bost a chyfryngau cymdeithasol lle gall dysgwyr ddewis a dethol yr hyn sy’n berthnasol i’w rôl a’u busnes.

Mae’n debygol bod sefydliadau wedi buddsoddi llawer mwy mewn meddalwedd ddigidol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig gyda chynnydd mewn gweithio o bell a hybrid, felly mae’n bwysig bod staff yn manteisio i’r eithaf ar y buddsoddiadau costus hyn.

Mae’r hyfforddiant seiliedig ar waith ar Lefel Dau wedi’i anelu at unrhyw un sy’n defnyddio cyfrifiadur yn eu gwaith.

Mae ACT hefyd yn cynnig Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes ar Lefel Tri i’r rhai sydd mewn rôl sy’n fwy digidol ac yn ymwneud a thrin data.

Yn gwrs delfrydol ar gyfer gweinyddwyr lefel uchel, rheolwyr prosiect neu debyg, mae’r cwrs Lefel Tri yn archwilio meddalwedd cronfa ddata a sut y gellir ei defnyddio i adrodd a defnyddio data’n effeithlon.

Gan anelu at bontio’r bwlch rhwng gwaith gweinyddol a dadansoddol, mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar fodelu data a nodweddion uwch offer TG y mae staff eisoes yn gyfarwydd â nhw.

Ychwanegodd Lucy: “Ar Lefel Tri, mae dysgwyr yn cael gwell dealltwriaeth o’r offer maen nhw’n ei ddefnyddio ar gyfer eu rôl, gan hybu effeithlonrwydd yn eu gwaith.

“Gall Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes sicrhau bod meddalwedd yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial.”

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut y gall cyrsiau Sgiliau Digidol Busnes ACT eich dyrchafu chi neu’ch gweithlu, yna Cysylltwch â ni acttraining.org.uk

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —