Bwrdd iechyd a wobrwywyd yn annog prentisiaid i “anelu am yr entrychion”

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae un o fyrddau iechyd Cymru, sy’n annog staff i “anelu am yr entrychion” trwy fuddsoddi mewn recriwtio a datblygu gyrfaoedd, wedi ennill gwobr brentisiaeth genedlaethol uchel ei bri.

Emma Bendle, Cardiff and Vale UHB receiving the award.

Emma Bendle, cydgysylltydd prentisiaethau ac ehangu mynediad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn derbyn gwobr Macro-Gyflogwr y Flwyddyn gan Kelly Reynolds, cyfarwyddwr y noddwr People Plus.

Enillodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wobr Macro-Gyflogwr y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.

Mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn uwchsgilio ei weithlu drwy ddefnyddio amrywiaeth o brentisiaethau ers 2006, ond cyflymodd ei raglen yn sgil creu Academi Brentisiaethau yn 2018. Mae bron i 900 o unigolion newydd wedi cofrestru, gan gynnwys recriwtiaid newydd i’r sector.

Mae’r dull deuol hwn yn bwrw ffrwyth, gan fod bron i ddau ddwsin o brentisiaethau wedi creu cyfleoedd i adeiladu gyrfa i weithwyr presennol yn ogystal â newydd-ddyfodiaid. Mae ffrwd newydd o dalent yn helpu i fynd i’r afael â her recriwtio a chadw staff.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Emma Bendle, cydgysylltydd prentisiaethau ac ehangu mynediad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rwy’n credu bod y wobr anhygoel hon yn cydnabod ac yn profi gwerth y gwaith rydym wedi’i wneud hyd yn hyn a byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn.
“Rydw i wedi bod yn fy swydd am y pum mlynedd diwethaf ac i mi, yn berson
ol, mae’n teimlo fel bod yr angerdd a’r gwaith caled sydd wedi’i wneud wedi talu ar ei ganfed i bawb rydw i wedi’i recriwtio fel prentis neu i aelodau staff sydd wedi gallu symud ymlaen. Mae prentisiaethau wedi agor drysau at gyfleoedd newydd i bawb.

“Mae prentisiaethau’n gweithredu ar wahanol lefelau ac yn cael eu paru â’n rolau band i sicrhau eu bod yn addas ac yn hwylus i’w cwblhau. “Mae hyn yn rhoi cyfle i unigolion anelu am yr entrychion neu ddewis lefel lle maen nhw’n teimlo’n gyfforddus, gan hyrwyddo dull mwy cynhwysol o weithredu drwy ddiwallu anghenion unigolion â sgiliau a galluoedd amrywiol.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn wych. Rydym wedi gwylio a gwrando ar fideos am bobl a chyflogwyr anhygoel sydd i gyd wedi elwa ar brentisiaethau.”

Mae partneriaethau wedi bod yn hanfodol wrth ddarparu’r nifer fawr o raglenni sydd ar gael, ac mae Talk Training, Educ8, ALS Training a Choleg Caerdydd a’r Fro wedi ymuno â’r prif ddarparwr hyfforddiant, ACT i weithio ochr yn ochr â’r bwrdd iechyd.

Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig y bwrdd iechyd ac enillwyr gwobrau eraill, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae straeon fel eu rhai nhw yn dangos yn eglur iawn yr effaith fawr y gall prentisiaeth ei chael, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw’n rhan hanfodol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.

“Mae’n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny’n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —