Prentis yn rhannu ei diwylliant Pwylaidd â phlant bach yn Llandudno

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae prentis o Wlad Pwyl wedi goresgyn rhwystrau iaith a nam ar y clyw gan ddod yn aelod gwerthfawr o’r tîm mewn lleoliad i blant cyn oed ysgol yn y gogledd.

Malgorzata Bienko sitting in playground with her tutor.

Malgorzata Bienko gyda Jamie Norris o Hyfforddiant Arfon Dwyfor.

Mae Malgorzata Bienko, 41, yn gweithio yn School Lane Preschool yn Llandudno, lle mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, a ddarperir gan Hyfforddiant Arfon Dwyfor Cyfyngedig.

Ar ôl gweithio am gyfnod yn y sector gofal cymdeithasol, mae hi wedi addasu’n gyflym i weithio gyda phlant bach ac mae wrth ei bodd â’i swydd lle caiff ei hannog i rannu diwylliant a thraddodiadau Gwlad Pwyl. Mae hi hefyd yn helpu plant Pwylaidd yn y feithrinfa.

Yn awr, mae Malgorzata wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Dywed Malgorzata, sydd â mewnblaniad clyw, ei bod yn gwerthfawrogi cefnogaeth y rheolwr Sandie Cox, ei chydweithwyr a’r asesydd hyfforddiant Jamie Norris i’w helpu i gyflawni ei Phrentisiaeth Sylfaen.

“Wrth gwblhau’r brentisiaeth, dw i wedi dod yn aelod cymwysedig o’r staff ac dw i’n ceisio rhoi popeth dw i wedi’i ddysgu ar waith er mwyn rhoi gwasanaeth o safon uchel i blant a’u teuluoedd,” meddai.

“Dw i’n gwerthfawrogi’r wybodaeth a’r profiad a gefais drwy gydol y brentisiaeth gan eu bod yn cyfrannu at fy natblygiad personol.

“Mae’r hyfforddiant wedi agor fy meddwl ac wedi ehangu fy nealltwriaeth o bwysigrwydd y blynyddoedd cynnar a rôl chwarae yn natblygiad plentyn.

“Mae bod yn weithiwr gofal plant yn gyfrifoldeb mawr ond mae hefyd yn rhoi boddhad mawr.”

Ar ôl ennill Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Llandrillo Menai a Gradd BA mewn Darlunio o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, mae Malgorzata yn cyfuno ei sgiliau artistig â’i gwybodaeth am ddatblygiad plant wrth weithio gyda phlant ar brosiectau celf a chrefft.

Roedd gan Sandie ganmoliaeth i Malgorzata, sy’n fam i dri o blant, am ei gwaith caled yn cyflawni’r Brentisiaeth Sylfaen, gan oresgyn rhwystrau iaith a nam ar y clyw wrth wneud hynny.

“Mae hi wir wedi rhoi ei chalon a’i henaid ynddo,” meddai. “Mae’n mynychu pob cwrs yn y gweithle ac, erbyn hyn, mae’n aelod cymwysedig ac yn rhan hanfodol o’r tîm.

“Mae Malgorzata yn dod â’i diwylliant i’r gwaith hefyd, gan ddathlu gwahanol draddodiadau Pwylaidd ac mae hynny wedi ein helpu ni i ddathlu amrywiaeth gyda’r plant.”

Wrth longyfarch Malgorzata a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —