Canmoliaeth loyw i gyfraniad Olivia, sy’n brentis, i’r bwrdd iechyd
Mae gan brentis o’r enw Olivia Headley-Grant uchelgais heintus i wneud pethau’n well, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon yn ei thîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Dyna farn Cath Doman, Cyfarwyddwr Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n dweud: “Mae Olivia’n sefyll allan oherwydd ei gwaith caled, ei hymroddiad, ei gallu i addasu a’i pharodrwydd i gyflawni mwy. Mae ein tîm, a’r GIG, yn well oherwydd y rhan hanfodol y mae Olivia yn ei chwarae.”
Ymunodd Olivia, 18, o’r Barri, â thîm y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ym maes cynllunio strategol fel prentis yn ystod y pandemig a chwblhaodd Brentisiaeth Sylfaen City & Guilds mewn Gweinyddu Busnes, a ddarparwyd gan Goleg Caerdydd a’r Fro, ym mis Tachwedd y llynedd.
Yn awr, mae Olivia wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.
Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.
Mae Olivia wedi creu argraff ar bawb gyda’i gwaith i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar amrywiaeth o brosiectau ar gyfer y GIG, awdurdodau lleol a’r trydydd sector i helpu i wella profiad pobl o ofal trwy wasanaethau cydgysylltiedig.
Er iddi orfod gweithio o bell yn ystod y pandemig, mae Olivia wedi ffynnu yn ystod ei phrentisiaeth. Cyfrannodd at Brotocol Pontio Anableddau Dysgu Caerdydd a’r Fro a’r Fframwaith Canlyniadau Rhanbarthol (ROF), sy’n casglu data gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i daflu goleuni ar yr effaith a gânt ar bobl ledled y rhanbarth.
Ar ôl sicrhau swydd barhaol fel cynorthwyydd gweinyddol, gofynnwyd i Olivia gynorthwyo i reoli dyddiadur cyfarwyddwr a chafodd hi a’i thîm eu henwebu ar gyfer gwobrau cydnabyddiaeth staff y bwrdd iechyd.
Mae hi hefyd yn dysgu Cymraeg oherwydd pwysigrwydd yr iaith yn y GIG a’i bartneriaid, wrth iddi fynd ati i ddatblygu ei gyrfa.
“O ganlyniad i fy mhrofiad ar y brentisiaeth, mae gen i ddiddordeb arbennig mewn rheoli prosiectau,” meddai. “Rwy’n bwriadu dilyn cwrs mewn rheoli prosiectau, fel PRINCE2, yn y dyfodol agos.”
Roedd Cath yn awyddus i ganmol Olivia am feithrin perthynas gref â’r tîm, arweinwyr gwasanaethau ac arweinwyr gweithredol ar draws y GIG ac awdurdodau lleol.
“Bu’n bleser pur gweld Olivia’n tyfu i fod yn aelod hyderus o’r staff ac yn uchel iawn ei pharch,” meddai. “Mae’n herio’i hun yn gyson i wneud pethau’n well, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon – mae ei huchelgais yn heintus ac mae wedi sbarduno’r tîm i wneud yn well hefyd.”
Wrth longyfarch Olivia a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,
“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.
“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod ei thymor presennol.
“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.
More News Articles
« Prentis yn rhannu ei diwylliant Pwylaidd â phlant bach yn Llandudno — Kiera’n goresgyn anawsterau gan wneud prentisiaeth er mwyn helpu cleifion »