Prentis yn profi twf personol a phroffesiynol gyda chymhwyster TG

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Close-up someone typing on laptop

Mae Ysabela Dalumpines, peiriannydd darparu gwasanaethau yn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS) yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, wedi dod o hyd i fwy o hyder yn ei swydd diolch i brentisiaeth gydag ALS.

Mae Ysabela yn gweithio ar y ddesg gymorth fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr SRS ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau diploma Lefel 4 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Thelathrebu Proffesiynol.

“Roedd y cwrs a’r unedau ynddo yn berthnasol iawn i fy swydd,” esboniodd Ysabela. “Rwyf wedi ennill sgiliau a gwybodaeth newydd mewn moeseg broffesiynol ac ymwybyddiaeth ddeddfwriaethol, a datblygiad personol.

“Mae wedi fy helpu i wella fy sgiliau ymgynghori a gallaf gynnig cyngor arbenigol i gwsmeriaid ynglŷn â’u problemau a’u ceisiadau. Mae hefyd wedi fy helpu i feithrin perthnasoedd cryf â chwsmeriaid a gwella darpariaeth gwasanaethau trwy raeadru awgrymiadau i fy rheolwyr llinell.”

Mae Ysabela yn credu bod y cymhwyster nid yn unig wedi hyrwyddo ei gyrfa ond hefyd wedi meithrin ei thwf personol. Wrth gwblhau’r cwrs, fe’i cymhwysodd i symud i fyny’r raddfa, gan gynyddu ei photensial ennill a rhoi hwb i’w hyder a’i chynhyrchiant yn y gwaith.
  
Yn siarad am ALS fel darparwr prentisiaeth, dywedodd Ysabela: “Fe wnaeth Gareth Davies fy asesydd fy nghefnogi bob cam o’r ffordd yn ystod y rhaglen. Unrhyw bryd roeddwn yn cael trafferth deall meini prawf yr uned neu os oedd gen i gwestiynau ynghylch casglu tystiolaeth, roedd yn gallu ateb ac egluro popeth. Llwyddais i gwblhau’r gwaith cwrs i safon dda gyda’i gymorth.

“Gwnaeth fy nghyflogwr, TCBC –SRS rhoi’r amser i fi gwblhau fy ngwaith cwrs yn ystod oriau gwaith. Fe wnaethant hefyd fy nghefnogi gydag unrhyw ymholiadau ynghylch casglu tystiolaeth yn ogystal â darparu cyfleoedd i gasglu tystiolaeth angenrheidiol yn y gweithle.”

Wrth siarad am ddysgu seiliedig ar waith a’r rhwystrau posibl i uwchsgilio darpar ddysgwyr, dywedodd Ysabela: “Rwy’n credu mai’r broblem yw nad oes gan rai sefydliadau gefnogaeth briodol ar waith i helpu pobl â datblygiad proffesiynol parhaus neu eu bod nhw ddim yn hysbysebu’r cyfleoedd hyn yn ddigon da i bobl gymryd rhan.”

Er gwaethaf yr heriau, mae Ysabela yn awyddus i argymell prentisiaethau i eraill, gan ychwanegu: “Mae’n anodd cydbwyso gweithio a chwblhau cwrs ar yr un pryd, ond mae’n werth ei wneud gan y byddwch yn derbyn cymhwyster ar y diwedd sy’n hynod ddefnyddiol ar gyfer eich twf personol.

“Fy nghyngor fyddai dewiswch eich cwrs yn ofalus. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael trafodaeth gyda’ch cyflogwr i weld sut y gallant eich cefnogi, yn enwedig pan fydd angen i chi gasglu tystiolaeth yn y gweithle neu fynychu gwersi.”

ACT Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —