Dadansoddi sgiliau digidol yn Ne Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Close-up of someone sitting at desk, writing.

Daeth Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (RSPs) de-ddwyrain a de-orllewin Cymru at ei gilydd ym mis Mehefin 2024 i gomisiynu astudiaeth o sgiliau digidol. Y nod oedd casglu gwybodaeth am anghenion sgiliau digidol, sylfaenol ac uwch, er mwyn canfod lle’r oedd bylchau a phrinder sgiliau.

Gyda’i gilydd, galwodd y Partneriaethau ar gyflogwyr i rannu eu barn am y ddarpariaeth o ran prentisiaethau a hyfforddiant, heriau ym meysydd cydraddoldeb ac amrywiaeth, a llwybrau tuag at rolau digidol. Datblygwyd arolwg er mwyn deall anghenion cyflogwyr yn well, canfod blaenoriaethau rhanbarthol, a chyfrannu at feysydd polisi allweddol Llywodraeth Cymru.

Cafwyd 120 o ymatebion i’r arolwg, o dde-ddwyrain a de-orllewin Cymru – 62 o’r de-ddwyrain a 58 o’r de-orllewin. Daethant gan drawstoriad o fathau o gyflogwyr, yn cynnwys y meysydd digidol, ariannol, llywodraeth leol, gweithgynhyrchu, iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, darparwyr hyfforddiant, a manwerthu.

Wrth ganolbwyntio ar y gofynion o ran sgiliau digidol sylfaenol, cyfeiriodd yr adroddiad at arwyddocâd PowerBi ar gyfer trin data, awtomeiddio cymwysiadau, cynhyrchiant mewn gwaith swyddfa sylfaenol a sgiliau digidol sylfaenol – trwy offer fel Microsoft 365, ynghyd â sgiliau hollbwysig wrth ddefnyddio CRM a systemau’n seiliedig ar ddata.

Cyfeiriodd yr adroddiad at ragor o sgiliau digidol uwch hefyd, gan awgrymu bod technolegau AI a Net Zero yn dod â newidiadau mawr i fusnesau. Roedd lle amlwg i awtomeiddio, roboteg, rhaglennu microreoli, monitro o bell, IOT a seiberddiogelwch hefyd.

Yn ogystal, roedd yr ymchwil yn pwysleisio amrywiaeth yr offer a’r technolegau digidol uwch y mae cyflogwyr yn eu defnyddio ar gyfer gwaith datblygu a chodio stac llawn, platfformau cwmwl a’u seilwaith, dadansoddi data, llunio adroddiadau ac AI.

Yn olaf, awgrymodd yr adroddiad fod cyflogwyr, ar y cyfan, yn recriwtio o blith rhai sy’n dilyn rhaglenni gradd a chyrsiau coleg galwedigaethol. Mae’n ymddangos nad yw cyflogwyr mor ymwybodol o’r cyfleoedd a ddaw trwy brentisiaethau a bod angen i ffynonellau gwybodaeth fod yn gliriach. Er enghraifft, y ffordd mae fframweithiau prentisiaethau’n gweithio a pha ddarparwyr sy’n gallu helpu prentisiaid i uwchsgilio.

Digital Skills Analysis Report
Datblygwyd ar gyfer Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Phartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru (Saesneg ar unig).

Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —