Mae Angen Buddsoddiad Hirdymor ar Sector Lletygarwch Cymru, Nid Hwb Haf yn Unig
English | Cymraeg

Cwsmeriaid yn mwynhau pryd o fwyd yng ngardd tafarn yng Nghymru, golygfa sy’n cael ei hailadrodd ledled Cymru yn ystod y tymor masnachu gwyliau hollbwysig.
Pob haf, mae busnesau lletygarwch ledled Cymru yn edrych tuag at wyliau’r ysgol gyda chymysgedd o ddisgwyliad a gobaith. I lawer o fwytai, caffis, tafarndai, gwestai ac atyniadau ymwelwyr, mae Gorffennaf ac Awst yn fisoedd masnachu prysur. Maent hefyd yn gyfnod a all benderfynu llwyddiant y flwyddyn gyfan.
O fynyddoedd Eryri i strydoedd Caerdydd, ac o arfordir Sir Benfro i ffiniau Cymru, mae busnesau’n dibynnu ar niferoedd mawr o ymwelwyr i gynhyrchu’r refeniw sy’n helpu i’w cynnal trwy gyfnodau tawelach. Mae haf llwyddiannus yn cefnogi swyddi, rhoi hwb i hyder ac yn creu cyfleoedd i fuddsoddi. Gall tymor gwael rhoi pwysau sylweddol ar fusnesau sydd eisoes yn wynebu costau cynyddol.
Lletygarwch yw un o gryfderau economaidd mwyaf Cymru, gan gefnogi mwy na 165,000 o swyddi ac yn cyfrannu biliynau o bunnoedd i’r economi. Eto mae ei werth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r economi.
Mae’r sector wrth wraidd cymunedau ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae busnesau lletygarwch yn aml yn gyflogwyr mawr. Maent yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol, yn denu ymwelwyr ac yn creu cyfleoedd i bobl leol.
Mae lletygarwch hefyd wedi darparu un o’r llwybrau mwyaf hygyrch i gyflogaeth. Mae llawer o bobl yn cael eu profiad cyntaf o’r gweithle mewn gwesty, bwyty, caffi, neu atyniad ymwelwyr, gan ddatblygu sgiliau fel cyfathrebu, gwaith tîm, gwydnwch, datrys problemau a gwasanaeth cwsmeriaid.
Mae’r rhain yn rhinweddau y mae cyflogwyr yn dweud wrth Bartneriaethau Sgiliau a Dysgu Rhanbarthol eu bod yn eu gwerthfawrogi fwyaf, ochr yn ochr ag agwedd gadarnhaol a phrofiad ymarferol yn y gweithle. Nhw hefyd yw’r sylfeini y mae gyrfaoedd llwyddiannus yn cael eu hadeiladu arnynt.
Yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, rydym wedi treulio mwy na 30 mlynedd yn cefnogi dysgu seiliedig ar waith a helpu busnesau lletygarwch i ddatblygu gweithwyr dawnus. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi darparu mwy na 20,000 o raglenni prentisiaethau ac wedi gweithio gyda mwy na 4,500 o gyflogwyr ledled Cymru.
Pob dydd rydyn ni’n gweld y gwahaniaeth y mae prentisiaethau yn ei wneud. Maent yn galluogi pobl i ennill cyflog wrth iddynt ddysgu, ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant heb gronni dyled myfyrwyr a meithrin hyder yn y gweithle. Mae cyflogwyr, yn eu tro, yn elwa o ddatblygu timau medrus a ffyddlon sydd wedi’u paratoi ar gyfer rolau arwain yn y dyfodol.
Mae hyn yn bwysig nawr yn fwy nag erioed. Nid yw bron i filiwn o bobl ifanc rhwng 16 a 24 ledled y DU mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET). Mae lletygarwch yn parhau i fod yn sector allweddol sy’n gallu darparu llwybrau hygyrch i gyflogaeth, datblygiad sgiliau a dilyniant gyrfa hirdymor.
Fodd bynnag, mae’r sector yn gweithredu mewn amgylchedd cynyddol heriol. Mae costau cyflog cynyddol, pwysau chwyddiant, costau cyflogaeth uwch, cynnydd mewn prisiau bwyd a biliau ynni cynyddol yn parhau i gael effaith ar broffidioldeb, ac mae defnyddwyr parhau i fod yn ofalus wrth wario arian.
Y canlyniad yw sector sy’n cael ei wasgu o’r ddwy ochr.
Mae cyfradd TAW 20% y DU ar gyfer lletygarwch hefyd yn sylweddol uwch na’r cyfraddau gostyngedig a gymhwysir gan lawer o gyrchfannau twristiaeth gystadleuol ledled Ewrop, gan gynnwys Ffrainc, Sbaen a’r Eidal. Pan fydd teuluoedd yn cymharu cost gwyliau dramor gyda ‘staycation’ yng Nghymru, mae’r gwahaniaethau hynny’n bwysig.
Dyna pan mae cefnogaeth yn cynyddu i ymgyrch ‘VAT’s the Problem’ Tom Kerridge, sy’n galw am ostwng TAW lletygarwch o 20% i 10%.
Byddai cyfradd TAW is yn helpu busnesau i fuddsoddi mewn cyfleusterau, recriwtio staff, ehangu cyfleoedd prentisiaeth a gwella cynaliadwyedd hirdymor wrth greu cae chwarae mwy cyfartal â chystadleuwyr rhyngwladol.
Er gwaethaf yr heriau hyn, mae lletygarwch yn parhau i fod yn un o sectorau mwyaf gwydn ac arloesol Cymru. Mae busnesau’n parhau i addasu, arallgyfeirio a buddsoddi mewn gwella profiadau cwsmeriaid, datblygu staff a chofleidio technolegau newydd.
Ond nid yw gwydnwch yn unig yn ddigonol.
Mae angen amodau ar y diwydiant sy’n annog buddsoddiad, datblygu’r gweithlu a thwf cynaliadwy. Bydd prentisiaethau lletygarwch yn chwarae rhan hanfodol yn y dyfodol hwnnw, gan helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o gogyddion, goruchwylwyr, rheolwyr, ac arweinwyr busnes wrth fynd i’r afael â phrinder sgiliau ar draws y sector.
Nid sector sy’n creu swyddi yn unig yw lletygarwch. Mae’n creu gyrfaoedd, yn cefnogi cymunedau ac arddangos y gorau o Gymru i ymwelwyr o bob cwr o’r DU a thu hwnt.
Bydd tymor yr haf pob amser yn bwysig, ond mae llwyddiant hirdymor y diwydiant yn dibynnu ar greu amgylchedd lle gall busnesau buddsoddi’n hyderus, datblygu eu gweithlu a thyfu’n gynaliadwy.
Os ydym am i sector lletygarwch Cymru ffynnu yn hytrach na goroesi, rhaid i ni gydnabod ei wir werth a pharhau i fuddsoddi yn y bobl, y sgiliau a’r busnesau sy’n gwneud y sector yn rhan mor bwysig o’n heconomi a’n gymunedau.
Oherwydd pan fydd lletygarwch yn llwyddo, mae Cymru’n llwyddo.
Gan Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cwmni Hyfforddiant Cambrian
More News Articles
« Niwroamrywiaeth a dysgu gydol oes yn profi’n gyfuniad grymus i Aaron — Peidiwch Byth â Stopio Dysgu: Efallai bod y sgiliau sydd angen arnoch eisoes yn eich sefydliad »


