Mehefin 16, dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Gwobrau Prentisiaethau Cymru, yn nesáu

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae’r cloc yn tician tuag at y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru – hanner dydd ar 16 Mehefin.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW).

Chrystalla Moreton, last year’s Tomorrow’s Talent Award winner working on a piece of machinery.

Chrystalla Moreton, enillydd Gwobr Doniau’r Dyfodol y llynedd.

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais y gwobrau, sy’n cydnabod sêr disglair rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru o llyw.cymru/gwobrau-prentisiaethau-cymru/ymgeisiwch.

O’r ceisiadau, bydd rhestrau byrion yn cael eu llunio ar gyfer gwobrau, yn cynnwys Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch y Flwyddyn, sydd hefyd yn cynnwys prentisiaid gradd, a Doniau’r Dyfodol.

Caiff busnesau llwyddiannus eu cydnabod â gwobrau ar gyfer Cyflogwr Bach, Canolig, Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn. Mae gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn cydnabod pobl sy’n gwneud y gwaith pwysig o gyflenwi prentisiaethau.

I dynnu sylw at werth ymgeisio yn y gwobrau, bu Chrystalla Moreton, prentis peirianneg, yn sôn am yr hwb a gafodd i’w hyder pan enillodd Wobr Doniau’r Dyfodol y llynedd.

Mae Chrystalla, 21, o’r Tyllgoed, Caerdydd yn dymuno bod yn batrwm i ferched yn y diwydiant dur ac ysbrydoli pobl ifanc sy’n chwilio am rywbeth gwahanol i’r llwybrau academaidd arferol.

Gan barhau â’i thaith fel prentis gyda’r cwmni cynhyrchu dur cyfnerthedig Celsa Steel UK, mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth Peirianneg Fecanyddol mewn Gwasanaethau Cynhyrchu a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW.

Mae’n gyfnod cyffrous i Chrystalla gan ei bod hi a’i phartner, Daisy Evan-Watkins, yn paratoi i ddechrau rhedeg tafarn, The High Corner yn Llanharan. Mae gan y ddwy brofiad o weithio y tu ôl i far.

Bydd Chrystalla’n dal i weithio tuag at ei phrentisiaeth yn Celsa Steel, gan weithio shifftiau nos yn y dafarn.

Bu’n rhaid iddi newid ei chynllun gwreiddiol i ymuno â’r Fyddin yn dilyn trychineb deuluol a effeithiodd ar ei hiechyd meddwl. Yn awr, mae’n awyddus i ddangos i eraill sy’n mynd trwy gyfnod anodd yn eu bywyd bod yna olau ar ben draw’r twnnel.

“Ers i mi gael yr hwb o ennill Gwobr Doniau’r Dyfodol, rydw i wedi symud ymlaen i weithio’n annibynnol ar beiriannau ac rwy’n parhau i ddysgu pethau newydd,” meddai Chrystalla. “Roedd yn fraint ennill y wobr ac yn gam arall tuag at yr hyn yr hoffwn i ei gyflawni yn y dyfodol.

“Byddwn yn annog prentisiaid eraill i gystadlu yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru achos mae cael cydnabyddiaeth am y cynnydd rydych yn ei wneud yn hwb enfawr i’ch hunanhyder.

“Gwneud y brentisiaeth yw’r penderfyniad gorau rydw i wedi’i wneud. Mae wedi rhoi cyfle i fi ddysgu ac ennill cyflog ar yr un pryd a chyflawni rhywbeth ar y diwedd.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Pan fydd busnes yn cyflogi prentis newydd, mae’n gwneud mwy na chael aelod newydd o’r staff. Mae’n buddsoddi nid yn unig yn ei ddyfodol ei hun, ond yn nyfodol ein heconomi hefyd.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, yn gyfrifol am anelu at y nod hanfodol o fod yn wlad sero net, ochr yn ochr â chynnal yr economi sylfaenol o-ddydd-i-ddydd a’r gwasanaethau cyhoeddus y bydd angen i ni eu cyflenwi.

“Rwy’n annog pawb sy’n ymwneud â’n rhaglen brentisiaethau i ddathlu’r hyn y maen nhw yn ei gyflawni. Gallwch ysbrydoli eraill i ddilyn eich esiampl trwy gystadlu yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni a rhannu’r straeon am eich llwyddiant.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —