Gyrfa Albert yn codi’n uchel gyda Phrentisiaeth Radd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cafodd Albert Brennan, cyn bostmon, gyfle newydd pan ymunodd ag Airbus ym Mrychdyn – lle mae wedi codi’n uchel yn ei yrfa diolch i’r sgiliau a’r wybodaeth a gafodd wrth wneud Prentisiaeth Radd.

Albert Brennan, codi’n uchel yn ei yrfa gydag Airbus.

Mae Albert, 29, o Gefn-y-bedd, Wrecsam, yn gweithio yng nghanolfan ragoriaeth fyd-eang y cwmni ym Mrychdyn, sy’n cynhyrchu adenydd ar gyfer awyrennau Airbus.

Cwblhaodd Brentisiaeth Radd (Lefel 6) mewn Peirianneg Awyrenneg trwy Brifysgol Abertawe – gan ennill Gradd Baglor mewn Peirianneg Awyrenneg a Gweithgynhyrchu, ac NVQ Lefel 4 mewn Gweithgynhyrchu Peirianyddol.

Erbyn hyn, mae Albert yn parhau â’i ymchwil am wybodaeth trwy wneud Gradd Meistr mewn Peirianneg Strwythurau Ysgafn ac Ardrawiad, ar ôl cael cynnig ysgoloriaeth lawn gan y National Structural Integrity Research Centre (NSIRC).

Yn awr, mae Albert wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Yn ystod ei Brentisiaeth Radd yn Airbus, cafodd Albert brofiad gwerthfawr trwy leoliadau gwaith mewn gwahanol adrannau dros ddwy flynedd a hanner, yn cynnwys dylunio, straen, gweithgynhyrchu ac ansawdd.

Yn ei flwyddyn olaf, bu’n gweithio fel peiriannydd straen, yn dadansoddi strwythurau awyrennau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cynnal y llwythi sydd arnynt wrth hedfan. Roedd yn dal i dreulio un diwrnod yr wythnos yn astudio yn y brifysgol.

Trwy gydol ei brentisiaeth, bu Albert yn cydgysylltu prosiectau ansawdd yn ymwneud â diogelwch awyrennau, yn cyflwyno adroddiadau am straen technegol, ac yn datblygu offer digidol, gan wneud arbedion sylweddol i Airbus a chynhyrchu incwm ychwanegol.

Yn ogystal, aeth ati i ddatblygu ei sgiliau digidol trwy gydol ei brentisiaeth, ac mae bellach yn defnyddio cyfuniad o wybodaeth raglennu a gwybodaeth beirianyddol i awtomeiddio prosesau, i ddadansoddi data ac i adeiladu dangosfyrddau i ysgogi gwelliannau effeithlonrwydd.

Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth, cynigiwyd swydd amser llawn i Albert fel peiriannydd straen yn Airbus. Mae bellach yn Beiriannydd Corfforedig ac yn Aelod Cyswllt o’r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol ac enillodd Wobr y Myfyriwr Gorau gan Brifysgol Abertawe am gael y marciau uchaf yn gyffredinol ymhlith ei garfan ef o fyfyrwyr.

“Dw i’n teimlo bod cwblhau fy Mhrentisiaeth Radd wedi rhoi hwb fawr i fy ngyrfa ac wedi mynd â fi o swydd ddi-grefft i yrfa broffesiynol fedrus iawn,” meddai Albert.

“Dw i’n gobeithio gallu gweithio ar brosiectau heriol a diddorol am weddill fy ngyrfa a gwneud cyfraniad sylweddol i gymdeithas.”

Dywedodd Andrew Baines, Uwch Beiriannydd Straen yn Airbus: “Mae Albert yn aeddfed ac mae ganddo rinweddau eraill fel bod yn ddigynnwrf, yn ystyriol ac addasu’n dda i sefyllfaoedd. Dw i’n falch ei fod wedi dewis dilyn gyrfa yn Airbus fel Peiriannydd Straen, ac mae ei ddyfodol yn edrych yn ddisglair.”

Cafodd Albert a phawb arall ar y rhestrau byrion eu llongyfarch gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,” meddai.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —