Blwyddyn dda i asiedydd sy’n cystadlu yn rownd derfynol WorldSkills UK

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae asiedydd dawnus o Geredigion, Dion Evans, yn mwynhau blwyddyn gofiadwy wrth iddo edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol cystadleuaeth WorldSkills UK ym mis Tachwedd.

Dion working on a wood project.

Mae Dion Evans yn mwynhau blwyddyn gofiadwy.

Enillodd Dion, 19, sy’n gweithio i Alwyn Evans Cyf ym mhentref Talgarreg, Llandysul, fedal aur i gymhwyso ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth i asiedyddion yng Nghaeredin, ar ôl ennill medal efydd y llynedd.

Yn ogystal, mae’n un o dri sydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022, ar ôl cwblhau Prentisiaeth City & Guilds mewn Gwaith Asiedydd o Goleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr.

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022 mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Dechreuodd Dion weithio i Alwyn Evans yn 14 oed yn ei amser hamdden a neidiodd ar y cyfle i ymuno â’r busnes ar brentisiaeth pan adawodd yr ysgol gydag 14 TGAU.

Gyda’i gyfraniad ef, mae llwyth gwaith ac elw’r busnes wedi codi 20 y cant ac mae wedi rhyddhau Alwyn i gymryd mwy o waith, sy’n cynnwys gwneud cabinetau wedi’u cynllunio’n bwrpasol a grisiau.

“Yn ogystal â dysgu’r sgiliau angenrheidiol i wneud fy ngwaith, mae fy mhrentisiaeth wedi gwneud i mi herio fy hun ymhellach drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ac ymdrechu i gyrraedd safon uwch,” meddai Dion. “Rwy wedi datblygu llawer fel crefftwr ac fel person.

“Mae cymryd rhan yn rowndiau terfynol gornestau cenedlaethol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills UK wedi bod yn brofiad gwych ac yn hwb mawr i fy hyder, gan roi ffordd newydd o feddwl i mi a ffordd fwy modern o weithio.

“Mae’r hyn rydw i wedi’i ddysgu yn ystod fy mhrentisiaeth, ynghyd â’r gefnogaeth a’r anogaeth a gefais gan Alwyn, wedi fy helpu i fod yn grefftwr medrus a llwyddiannus yn y dyfodol.”

Ei nod yn y pen draw yw rhedeg ei fusnes ei hun, ac mae eisoes wedi sefydlu gweithdy yn ei gartref lle mae’n gwneud dodrefn gardd i’w llogi ar gyfer digwyddiadau.

Yn gynharach eleni, aeth Dion a’i chwaer, Cara, ati i feicio 75 milltir a cherdded 18 milltir gan godi £17,609 at yr uned cemotherapi yn Ysbyty Glangwili er cof am eu mam a fu farw, gwaetha’r modd, pan oedd Dion yn wyth oed.

Dywedodd Alwyn Evans: “Mae Dion wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fy nghwmni dros y blynyddoedd. Mae’n ddyn ifanc dibynadwy a phenderfynol iawn sydd bob amser yn anelu at berffeithrwydd ym mhob tasg.

“Rwy’n falch iawn o’r hyn y mae Dion wedi’i gyflawni a’r ffordd y mae’n ei herio’i hun bob amser i gyflawni mwy.”

Wrth longyfarch Dion a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

Coleg Ceredigion
Coleg Sir Gâr

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —