Angelina’n awyddus i helpu eraill i ddeall y dechnoleg ddigidol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Dywed Angelina Mitchell sy’n gwneud gwaith arloesol fel swyddog sicrhau ansawdd mewnol digidol, mai ei nod yw agor y drws i ddysgwyr feithrin y sgiliau i ddefnyddio technoleg yn hyderus.

Gweithio i’r darparwr hyfforddiant ACT yng Nghaerdydd mae Angelina, 28, a bu’n arloesi gyda’r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith Prentisiaethau Dylunio Dysgu Digidol yng Nghymru.

Angelina in the office

Angelina Mitchell – ieithydd.

Eglurodd Lucy Wilkinson, rheolwr llwybr gwasanaethau digidol ACT: “Bu’n rhaid i Angelina lywio’r gwaith o gyflwyno’r cymhwyster hwn ar ei phen ei hun oherwydd, ar y pryd, hi oedd unig asesydd y cymhwyster yng Nghymru. Mae ei brwdfrydedd a’i hymroddiad i’w datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y diwydiannau digidol yn eithriadol.””

Yn awr, mae Angelina wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Ar ôl bod yn dysgu ieithoedd tramor modern i ddisgyblion ysgol uwchradd, ymunodd Angelina ag ACT fel asesydd dan hyfforddiant yn 2018 gan ei bod yn chwilio am her newydd yn ei gyrfa a’i bod yn awyddus i helpu eraill i ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol.

Er mwyn sicrhau ei bod yn deall taith ei dysgwyr yn iawn, mae hithau wedi dilyn y prentisiaethau y mae’n eu cyflenwi ac mae wedi dysgu Cymraeg er mwyn iddi allu gweithio’n ddwyieithog.

Mae Angelina, sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn dod yn wreiddiol o’r Iseldiroedd, wedi dysgu’r iaith mor dda nes iddi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn ‘Cymraeg Gwaith’ (canolradd) gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’n rhugl mewn pum iaith.

Mae dysgwyr a chyflogwyr wrth eu bodd â hi a hi sy’n cael y canlyniadau gorau yn ei thîm – mae 90% o’i dysgwyr yn cwblhau eu cymhwyster ac mae’n cael sgôr ymgysylltu â chyflogwyr o 88%.

Mae hi hefyd yn cefnogi ac yn goruchwylio dysgwyr ar y llwybr gwasanaethau digidol yn ACT ac mae’n gwella’i sgiliau’n barhaus er mwyn cadw i fyny â thechnoleg a chymwysterau.
Cyn y pandemig, roedd hi eisoes wedi addasu i ddysgu o bell ac wedi cyflwyno trafodaethau 20 munud ar bwnc penodol er mwyn i’w dysgwyr ddysgu’r wybodaeth ar gyfer eu prentisiaeth. Mae ei chydweithwyr wedi mabwysiadu’r dull asesu hwn fel arfer gorau.

Ymhlith ei chymwysterau mae gradd Baglor mewn Addysg yn arbenigo mewn dysgu Ffrangeg, cymhwyster atodol mewn Dylunio Amlgyfrwng, Prentisiaethau yn y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, Asesu Hyfforddiant a Sicrwydd Ansawdd Mewnol.

“Mae Angelina’n arwain trwy esiampl,” meddai Lucy. “Mae wedi cael ei haddysg yn rhyngwladol, sy’n golygu bod ganddi brofiad o arferion gorau rhai o’r gwledydd â systemau addysg gorau’r byd. Mae Angelina yn mynd yr ail filltir i rannu ei gwybodaeth a’i sgiliau gyda chydweithwyr a dysgwyr fel ei gilydd.”

Dywedodd Angelina: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith, gan ei fod yn golygu llawer i mi. Mae’n dangos bod eraill yn teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth mewn sefydliadau ac ysgolion yng Nghymru.

“Rwy’n gweithio’n galed iawn ac yn gobeithio bod y pethau rydw i wedi’u dysgu yn y brifysgol ac yn y gwaith o fudd i diwtoriaid, athrawon a datblygwyr cwricwla.”

Cafodd Angelina a phawb arall ar y rhestrau byrion eu llongyfarch gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,” meddai.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

ACT Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —