Anya’r prentis yn “ased amhrisiadwy” i fusnes gwallt

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae’r penderfyniad i recriwtio Anya O’Callaghan yn swyddog marchnata, addysg a datblygu busnes yn talu ar ei ganfed i salon gwallt arobryn Spirit Hair Team yn Ystrad Mynach.

Mae Anya, 25, yn gweithio tuag at Brentisiaeth yn y Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnesau gyda’r darparwr hyfforddiant Educ8. I ddechrau, cyflogwyd hi i weithio rhan-amser i helpu i drefnu gweithdai hyfforddi ar-lein gyda chyflenwyr y cwmni yn ystod cyfnodau clo’r pandemig Covid-19.

Anya at the office with logo in the background

Anya O’Callaghan, “ased amhrisiadwy”.

Erbyn hyn. mae’n gweithio llawn amser ac mae’n “ased amhrisiadwy” i’r busnes. Mae ei swydd wedi’i hymestyn i gynnwys datblygu busnes, recriwtio prentisiaid, datblygu’r wefan, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol a gwneud dysgu’n fwy hwylus i brentisiaid ag anghenion dysgu ychwanegol.

I gydnabod ei heffaith ar y busnes, mae Anya wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Doniau’r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Mae perchennog Spirit Hair Team, Janine O’Callaghan, wrth ei bodd â gwaith ei merch Anya ac yn disgwyl iddi roi hwb o 12% i drosiant y cwmni eleni.

“Mae Anya wedi gwneud llawer mwy na’r disgwyl i ddatblygu fy musnes,” meddai Janine, a gafodd grant adfer gan Lywodraeth Cymru yng nghyfnod Covid i helpu i’w chyflogi hi ac un prentis arall. “Mae hi wedi dod o hyd i gyfleoedd busnes newydd i ni ac wedi cyflwyno gwasanaethau trin gwallt a gwasanaethau ar-lein newydd, i’n gwneud yn gynaliadwy at y dyfodol.

“Mae’n frwd iawn, yn greadigol ac yn llawn syniadau ar sut y gallwn ddatblygu ein busnes. Ar ôl y cyfnodau clo, sylweddolais ein bod yn dod yn ôl i ddiwydiant hollol wahanol a oedd wedi symud ar-lein.

“Nawr yn fwy nag erioed, mae prentisiaid yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein busnes. Rwy wedi gorfod ailfeddwl am fy musnes, gan gydnabod bod gwendidau yn ein strategaeth farchnata a’r ffordd yr oedden ni’n recriwtio prentisiaid a thalentau newydd.”

Mae Janine, sy’n berchen ar Spirit Hair Team ac Outpost Barbers, wedi cyflogi 55 o brentisiaid dros y blynyddoedd ac ar hyn o bryd mae ganddi chwech yn gweithio tuag at Brentisiaethau mewn Trin Gwallt a Gwaith Barbwr gydag ISA Training, rhan o Educ8 Group.

Mae Anya wedi meithrin cysylltiadau gyda Gyrfa Cymru ac ysgolion lleol i drefnu lleoliadau profiad gwaith ac mae Janine yn gobeithio y bydd y rhain yn datblygu i fod yn brentisiaethau.

Mae gan Anya ei hun anghenion dysgu ychwanegol ac felly mae’n gallu defnyddio’i phrofiad personol i wneud dysgu’n fwy hwylus i brentisiaid sydd â dyslecsia a dyspracsia.

Erbyn hyn, mae’n hyfforddi dysgwyr trin gwallt ar y rhaglen Lefel 1, gan ailgynllunio’r rhaglen i wella dulliau ymarferol o ddysgu. “Rydw i eisiau helpu pobl sy’n dod i mewn i’r diwydiant,” meddai Anya.

Yn ôl Ann Nicholas, cyfarwyddwr cyfrifon cwsmeriaid yn Educ8,

mae Anya’n “enghraifft berffaith” o brentis sydd wedi defnyddio’i sgiliau, ei gwybodaeth, ei mentergarwch a’i phrofiad personol i wella hyfforddiant yn ei gweithle er budd prentisiaid eraill.

Cafodd Anya a phawb arall ar y rhestrau byrion eu llongyfarch gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,” meddai.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

Educ8
ISA Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —