Chrystalla, y prentis, am fod yn batrwm i ferched ym myd peirianneg

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae prentis peirianneg o’r enw Chrystalla Moreton yn awyddus i fod yn batrwm i ferched yn y diwydiant dur ac, yn ôl ei chyflogwr, mae’n “seren ddisglair”.

Mae Chrystalla, 20, o’r Tyllgoed, Caerdydd, yn gweithio i’r cwmni dur cyfnerthedig Celsa Steel yn y ddinas ac mae’n gwneud Prentisiaeth Peirianneg Fecanyddol mewn Gwasanaethau Cynhyrchu a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW.

Chrystalla at work with steel tubes

Chrystalla Moreton, ‘seren ddisglair’ yn Celsa Steel.

Bu’n rhaid iddi newid ei chynllun gwreiddiol o ymuno â’r Fyddin yn dilyn trychineb deuluol. Effeithiodd hynny ar ei hiechyd meddwl a bu’n gwneud gwaith bar am gyfnod.

Yn awr, mae Chrystalla wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Doniau’r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Mae Chrystalla yn benderfynol o wneud iawn am yr amser a gollwyd, chwifio’r faner dros beirianwyr benywaidd a pharhau i gefnogi ei theulu. Yn dilyn cyfweliad ar-lein llwyddiannus gyda Celsa Steel, cafodd wahoddiad i ymweld â’r cwmni ac roedd wrth ei bodd â’r hyn a welodd.

“Roedd mynd i’r safle a gweld beth oedd o fy mlaen yn codi fy chwilfrydedd,” meddai Chrystalla. “Ro’n i’n ei weld fel antur newydd o’r dechrau ac rwy wedi synnu fy hun fy mod yn gwneud cystal.

“Ar ôl cyfnod isel, mae hwn yn drawsnewidiad enfawr. Rwy am lwyddo trwy fod y gorau y gallaf fod yn y sector a dangos i ferched y gallan nhw wneud cystal â dynion.

“Os bydd rhywun yn dweud nad ydw i’n gallu gwneud rhywbeth, rwy’n benderfynol o’u profi nhw’n anghywir. Ac rwy eisiau dangos i bobl sy’n mynd trwy gyfnod anodd, fel y gwnes i, fod yna olau ar ben draw’r twnnel.”

Llwyddodd Chrystalla i greu argraff ar Celsa Steel, sy’n cyflogi 70 o brentisiaid, o’r dechrau’n deg.

Ar ôl cael ei hysbrydoli gan degan Pinscreen 1987, mae hi wedi codi’r syniad o ailddyfeisio a chyfrifiaduro dyfais debyg yn Celsa Steel fel y gellir cludo bariau metel o wahanol siapiau a meintiau yn fwy effeithlon a llwyddiannus.

“Dydyn ni ddim yn disgwyl i brentisiaid peirianneg ddatrys problemau fel hyn tan y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn,” meddai Terry Collier, rheolwr prentisiaethau’r cwmni. “Mae Crystalla’n hyderus ac yn arloesol, hyd yn oed mor gynnar yn ei gyrfa, gan dangos mentergarwch a mynd ati’n frwd i roi cynnig ar y deunyddiau a’r peiriannau.

“Mae hi’n un o sêr disglair ei dosbarth, ond mae’n dal yn un o’r tîm. Mae’n fraint cael gweithio gyda hi a’i gweld yn llwyddo.”

Dywedodd Amanda Bathory-Griffiths, pennaeth marchnata TSW: “Mae Chrystalla wedi cael anawsterau yn ei bywyd ifanc, ond dyw hi erioed wedi gwangalonni na thynnu ei llygaid oddi ar ei huchelgeisiau.”

Wrth longyfarch Chrystalla a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

TSW Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —