Cwmni fferyllol yn taro ar aur wrth gyflogi Evan, y prentis arobryn

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Llwyddodd cwmni gwasanaethau gweithgynhyrchu a phecynnu fferyllol byd-eang, PCI Pharma Services, i daro ar aur pan ymunodd Evan Coombs, prentis dadansoddwr labordy, â’r busnes trwy Raglen Rhannu Prentisiaethau Anelu’n Uchel Blaenau Gwent.

Evan in the laboratory

Mae Evan Coombs yn ymroi i ddysgu.

Enillodd Evan, 19, o Flaenafon, fedal aur yn y categori Technegydd Labordy yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni ac mae wedi arbed amser ac arian i’w gyflogwr gyda’r data a gasglodd ar gyfer prosiect gwelliant parhaus.

O ganlyniad i’r prosiect, mae PCI Pharma Services wedi cyflogi dau dechnegydd ar gontractau 12 mis.

Yn awr, mae Evan wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Doniau’r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Mae Evan, sy’n gweithio tuag at Brentisiaeth Technegydd Labordy a Gwyddoniaeth a ddarperir gan Goleg y Cymoedd, yn cael ei gyflogi gan PCI Pharma Services ac Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ar y cyd. Mae hefyd yn astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch Lefel 4 mewn Cemeg Gymhwysol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Mae Evan yn cael ei ganmol am ei waith ardderchog. Mae eisoes yn gweithio i safon dadansoddwr Lefel 1 yn y diwydiant ac yn gweithio goramser er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau achub bywyd yn cyrraedd y farchnad mewn digon o bryd a bod ei adran yn cyrraedd targedau ariannol.

“Rwy wedi gweld Evan yn datblygu mewn cyfnod byr, o fewn blwyddyn gyntaf ei brentisiaeth, i fod yn ddadansoddwr abl ac effeithiol,” meddai Danielle Davies, arweinydd tîm sefydlogrwydd PCI.

“Mae’n llwyddo oherwydd ei ymroddiad i ddysgu a’r awydd i wneud yn dda. Mae wedi ymroi’n llwyr i bob tasg ac wedi cyrraedd pob un o’i nodau a’i amcanion.”

Er iddo wneud yn dda yn ei Lefel A, roedd Evan yn ansicr a ddylai fynd i’r brifysgol oherwydd bygythiad o ragor o ddysgu o bell o achos pandemig COVID-19. Mae’r brentisiaeth gydag Anelu’n Uchel a PCI wedi rhoi cyfle iddo ddefnyddio’i wybodaeth a’i sgiliau, ennill profiad, hybu ei addysg a datblygu gyrfa.

“Rwy’n mwynhau fy swydd yn fawr achos rwy’n cael gwneud rhywbeth gwahanol bob dydd ac mae’n gyfle i mi roi popeth rwy’n ei ddysgu ar waith,” meddai. “Fy uchelgais yw dal i symud ymlaen gyda PCI.”

Ar ôl cyrraedd rhestr fer gwobr Doniau’r Dyfodol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2022, dywedodd Evan: “Roedd yn dipyn o sioc, ond mae’n braf cael eich cydnabod.”

Dywedodd Lena Shipley, tiwtor yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae sgiliau a hyder Evan wedi cynyddu’n sylweddol dros flwyddyn gyntaf ei brentisiaeth ac mae wedi ymdaflu i’w hyfforddiant gyda brwdfrydedd ac ymroddiad.

“Mae Evan wedi bod yn batrwm o fyfyriwr ers iddo ddechrau gyda ni. Mae’n gwneud gwaith o safon eithriadol ac mae wedi cael ‘Rhagoriaeth’ ym mhob uned a gwblhawyd hyd yn hyn.”

Wrth longyfarch Evan a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

Coleg y Cymoedd

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —