Enw da gan gwmni peirianneg am brentisiaid medrus iawn

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae gan gwmni gwneud tŵls a deiau enw da yn rhyngwladol oherwydd sgiliau eithriadol ei brentisiaid sydd wedi helpu i wella proses weithgynhyrchu’r cwmni.

Mae prentisiaid sy’n gweithio i FSG Tool and Die, Llantrisant, yn rhagori mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

Apprenticeships co-ordinator in factory with apprentices.

Cydlynydd prentisiaid FSG Tool and Die, Steve Cope, a phrentisiaid.

Enwyd Max James yn Brentis Peirianneg y Flwyddyn, Cymru, ac roedd Kodie Higgins yn agos at y brig yng nghategori Prentis Peirianneg: Seren sy’n Codi, Cymru, yng ngwobrau Make UK 2021. Aeth Kodie ymlaen i ennill medal aur yn y categori Melino CNC yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Ymunodd Sion Murray a Will Holmes â Kodie yn rownd derfynol WorldSkills UK 2021, lle’r enillodd Sion fedal aur.

I gydnabod ei ymrwymiad i brentisiaid, mae FSG Tool and Die wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Mae dros 90 yn gweithio i FSG Tool and Die, yn cynnwys 12 o brentisiaid sy’n gweithio tuag at Brentisiaethau hyd at lefel gradd mewn Peirianneg Fecanyddol, a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW Training a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.

Mae’r cwmni’n cynnig datrysiadau ym meysydd datblygu a pheirianneg i gwsmeriaid ledled y byd ac yn allforio dros hanner ei gynhyrchion.

Bu prentisiaid y cwmni’n helpu i symleiddio ei broses weithgynhyrchu, gan wella effeithlonrwydd o chwech y cant. Yn ogystal, maent wedi dyfeisio batris llai ar gyfer ceir trydan ar gais cwsmer ac maent yn treialu deunyddiau gweithgynhyrchu cynaliadwy ar gyfer dyfodol gwyrddach.

Ers iddo sefydlu ei raglen brentisiaethau yn 1969, mae FSG Tool and Die yn cymryd pum prentis bob blwyddyn ac mae’r rheiny’n tueddu i aros gyda’r cwmni am amser hir, gyda rhai ohonynt yn symud ymlaen i dîm yr uwch-arweinwyr.

Mae’r cwmni’n cydweithio’n agos ag ysgolion a cholegau lleol i hyrwyddo gweithgynhyrchu ac mae’n rhedeg cynllun ‘Merched mewn Peirianneg’ i recriwtio mwy o weithwyr benywaidd.

“Daeth ein rhaglen brentisiaethau ni yn ffon fesur i lawer o gwmnïau yn y diwydiant,” meddai Steve Cope, arweinydd rhagoriaeth ddarbodus/weithredol FSG Tool and Die a’r cydlynydd prentisiaid.

“Mae ein prentisiaid ni’n allweddol i waith y busnes o ddydd i ddydd ac yn cyfrannu’n fawr at ein llwyddiant. Gan fod eu gwaith o safon mor uchel, mae’n help i gynnal ein henw da ac mae gennym hanes o gadw staff am flynyddoedd, weithiau am oes.”

Dywedodd Amanda Bathory-Griffiths, TSW Training: “Mae prentisiaid FSG yn cael gyrfaoedd ystyrlon, gan greu profiad gwaith sy’n ymestyn dros ddegawdau a chenedlaethau o’r un teuluoedd. Trwy hynny, mae FSG yn adnabyddus fel cyflogwr i’r gymuned, ond mae gan ei brentisiaid enw da gartref a thramor am eu sgiliau eithriadol, eu gwytnwch a’u penderfyniad.”

Wrth longyfarch FSG Tool and Die a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

TSW Training
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —