Prentisiaid yn atgyfnerthu gweithlu cwmni dur Celsa

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae annog gweithwyr profiadol sydd ag un llygad ar eu hymddeoliad i ‘dalu ’nôl’ trwy helpu’r genhedlaeth newydd wedi dod yn ffordd allweddol o ddatblygu gweithlu ffyddlon a medrus yn Celsa Steel UK, Caerdydd.

Sefydlodd y cwmni ei raglen brentisiaethau yn 2005 am fod y gweithlu’n heneiddio ac nad oedd eu gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i genhedlaeth ifanc.

Celsa Steel staff sitting on steel girders in factory.

Rheolwr un o felinau Celsa Steel UK, Shaun Littlemore, gyda phrentisiaid.

Mae’r rhaglen wedi esblygu’n gynllun 10 mlynedd newydd sy’n pontio bwlch o 50 mlynedd rhwng pobl sydd ar fin ymddeol a gweithwyr newydd. Defnyddir strategaeth cynaliadwyedd busnes i drosglwyddo gwybodaeth yn gynharach o lawer yng ngyrfa peiriannydd.

Yn awr, mae Celsa Steel UK wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae Chrystalla Moreton, un o brentisiaid talentog y cwmni ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Doniau’r Dyfodol hefyd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Dywedodd Terry Collier, cyn-brentis sydd erbyn hyn yn rheolwr prentisiaethau Celsa Steel UK: “Rydym yn edrych yn fanwl ar staff oedran ymddeol bum mlynedd cyn iddynt adael Celsa, i weld pa sgiliau y bydd angen i ni eu sicrhau er mwyn cynllunio ar gyfer olyniaeth ddi-dor.

“Felly rydym yn gwybod faint o brentisiaid i’w recriwtio ym mhob adran bob blwyddyn er mwyn sicrhau parhad y busnes. Mae ein ffordd ni o weithio, ynghyd â’r prinder sgiliau ym Mhrydain, yn golygu bod galw mawr am ein gweithwyr ni yn y farchnad lafur, ac felly rydym yn canolbwyntio ar geisio sicrhau bod gweithwyr yn aros yn hir.”

Esboniodd fod gan y cwmni tua 70 o brentisiaid, yn cynnwys 23 wedi’u recriwtio eleni. Mae trosiant staff yn isel gyda phrentisiaid yn aros yn Celsa am 6.8 mlynedd, o’i gymharu â gweithwyr a gyflogir yn uniongyrchol sy’n aros yn y gwaith am ddim ond 1.2 mlynedd.

Mae’r cynllun 10 mlynedd, a ddatblygwyd gyda’r darparwr hyfforddiant TSW Training, yn mynd i’r afael â phrinder sgiliau peirianneg crefft ledled y DU drwy lywio prentisiaid newydd o’r coleg i’r gwaith, ac yna wrth symud ymlaen yn eu gyrfa.

Mae pob prentis yn gweld eu llwybr gyrfa trwy Celsa o’r cychwyn cyntaf, gan symud ymlaen i fod yn fentoriaid a rheolwyr, yn uwch beirianwyr ac yn aelodau o’r timau arwain.

Yna, daw ‘trobwynt’ – cam yn yr yrfa pan fydd y gweithiwr yn rhoi’r gorau i ddysgu sgiliau newydd ac yn talu ‘nôl, gan alluogi’r cwmni i greu digonedd o arbenigwyr brwd a chydwybodol sydd â’r gallu i fentora.

Celsa, sydd â dros 9,000 o weithwyr ledled y byd, yw’r cwmni dur cyntaf i ennill Safon Aur ‘Rydym yn Buddsoddi Mewn Prentisiaid’ gan Buddsoddwyr Mewn Pobl.

“Mae Celsa’n haeddu’r wobr gan ei fod yn un o’r ychydig gwmnïau sy’n cadw llygad barcud ar hynt ei brentisiaid, yn gwrando ar eu hanghenion, yn gweithredu er budd yr unigolion, ac yn eu cefnogi beth bynnag yw’r her sy’n eu hwynebu,” meddai Amanda Bathory-Griffiths, pennaeth marchnata, TSW Training.

Mae TSW Training yn gweithio gyda’r cwmni i gyflenwi prentisiaethau mewn Marchnata, Gweinyddu Busnes, Peirianneg a Chynhyrchu. Ymhlith y Rhaglenni Prentisiaethau a gyflwynir yn Celsa mae AAT, Gweinyddu Busnes, Rheoli Cadwyni Cyflenwi, Logisteg, Cynhyrchu, Technegwyr Labordy a Gwyddoniaeth, a Chrefftau Mecanyddol neu Drydanol.

Llongyfarchodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Celsa Steel UK a phawb arall ar y rhestrau byrion. “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,” meddai.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

TSW Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —